- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
06 Awst 2020
Gyda’r rhagolygon am dywydd braf dros y penwythnos, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn atgyfnerthu’r neges ‘Teithio'n Saffach’, gan annog pobl ddim ond i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau hanfodol pan nad oes ffordd arall o deithio ar gael.
Gyda chapasiti cyfyngedig oherwydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol, mae TrC yn anfon neges glir bod trafnidiaeth gyhoeddus ar gael er mwyn cynnig lle diogel i weithwyr allweddol.
Mae TrC wedi profi cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau at ddibenion hamdden, yn enwedig i gyrchfannau ar yr arfordir adeg tywydd braf. Mewn partneriaeth â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig rydym yn gofyn i'r cyhoedd lynu wrth y rheolau hyn.
Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:
“Diogelwch cwsmeriaid a chydweithwyr yw’r brif flaenoriaeth ac rydyn ni’n gofyn i bawb beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oni bai fod gwneud hynny’n hanfodol ac nad oes ffordd arall o deithio ar gael.
“Mae ein capasiti wedi lleihau’n sylweddol oherwydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol ac mae’n rhaid i ni gadw lle diogel i’r gweithwyr allweddol hynny sy’n defnyddio ein gwasanaethau.”
Ychwanegol Andy Morgan, Uwcharolygydd gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig:
“Bydd ein swyddogion yn parhau i gynorthwyo staff rheilffordd y penwythnos yma, yn sgwrsio â theithwyr, yn esbonio pa mor bwysig yw atal lledaeniad y feirws, ac yn annog pobl i wisgo gorchuddion wyneb.
“Rydyn ni’n hyderus y bydd y rheini sydd angen defnyddio’r trenau yn ymddwyn yn gyfrifol ac y byddan nhw’n awyddus i chwarae eu rhan yn helpu i warchod ei gilydd a chydymffurfio â’r gofynion.”