Skip to main content

Transport for Wales Delivers on Sustainability

24 Gor 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi ei Ddiweddariad Blynyddol cyntaf ar Ddatblygu Cynaliadwy, sy'n amlygu'r prif bethau a gyflawnwyd o ran darparu rhwydwaith trafnidiaeth cynaliadwy sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys gostyngiad o 6.27% yn hallyriadau carbon, hachrediad fel Cyflogwr Cyflog Byw, lansio cynllun ailgylchu cwpanau coffi yng ngorsaf Abertawe, a phlannu coetir a gosod 100 o flychau i bathewod ar draws safle 9 hectar yn Llanwern, Casnewydd i wella bioamrywiaeth.

Ceir manylion hefyd ar ddatblygiadau i gysylltu Llwybr Taf â depo Metro De Cymru newydd TrC yn Ffynnon Taf, rhaglen brentisiaeth barhaus, a gwaith i ddatblygu rhwydwaith o bwyntiau gwefru EV ledled Cymru.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: 

"Mae cynaliadwyedd yn ganolog i bopeth a wnawn yn Nhrafnidiaeth Cymru ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghymru. 

"Rydym yn cyd-fynd yn llwyr â pholisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol. 

"Mae'r adroddiad hwn yn dathlu ein llwyddiannau niferus y llynedd, ac rwy'n diolch i bawb sydd wedi gweithio'n galed i gyfrannu at y llwyddiant yma. Mae'r cynnydd a wnaed gennym yn rhoi llwyfan ardderchog i ni adeiladu arni yn y blynyddoedd i ddod wrth i ni barhau i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus sy’n wirioneddol gynaliadwy yng Nghymru sy'n gweithio i bobl ac i'r blaned." 

Cyhoeddir y diweddariad yn dilyn lansio Cynllun Datblygu Cynaliadwy a Strategaeth Effaith Carbon Isel Trafnidiaeth Cymru ym mis Tachwedd 2019 ac mae'n cynnwys y cynlluniau a gynhaliodd ym mlwyddyn ariannol 2019-20, gan ddangos ei ymrwymiad i nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

Ychwanegodd Peter Davies, Cadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru: 

"Mae gan Drafnidiaeth Cymru rôl arweiniol allweddol o ran cyflawni'r Gymru a ddymunwn. Mae'r adroddiad cynnydd blynyddol hwn yn rhoi crynodeb clir a dealladwy o'r ffordd y mae eu gweithrediadau yn cyfrannu at les cymunedau. Rydym am weld mwy o gwmnïau yng Nghymru yn dilyn yr arweiniad yma ac yn adrodd yn erbyn eu cyfraniad i'n nodau lles cenedlaethol. " 

Dywedodd Gareth Morgan, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd Trafnidiaeth Cymru: 

"Rydyn ni'n gweithio i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth y mae Cymru'n ymfalchïo ynddo, un sy'n cyflawni uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ymgymryd â rhai mentrau gwych ac wedi cyflawni llawer iawn fel y nodir yn yr adroddiad hwn. 

"Cafodd ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy groeso, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau eraill o Gymru i Seland Newydd i'w helpu i ddatblygu eu hymrwymiad i gynaliadwyedd. Wrth i'n cylch gwaith dyfu, byddwn yn cynyddu ein gwaith ar Deithio Llesol a dulliau eraill o drafnidiaeth gan ddefnyddio'r hyn rydym wedi'i ddysgu hyd yn hyn."

Meddai Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru:

“Roedd cynnwys cynaliadwyedd yn ein strategaethau, gwaith cynllunio a darparu yn un o’n prif nodau pan gymerwyd yr awenau i redeg y gwasanaethau rheilffyrdd.

“Mae cymaint o botensial, nid yn unig o ran lleihau allyriadau ac ôl-troed carbon drwy ein prosiectau ond drwy sicrhau ein bod i gyd yn dangos esiampl ac yn gwneud y dewisiadau iawn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Rydym wedi ymrwymo i gynnwys cynaliadwyedd drwy’r sefydliad, gan hyfforddi ein tîm a chynnal sesiynau codi ymwybyddiaeth, gan alluogi ein cydweithwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli a rhoi System Rheoli Amgylcheddol newydd ar waith sy’n gymwys i’n holl weithredoedd.

“Mae cynaliadwyedd yn bwysig i ni, ac fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a’r 7 Nod Llesiant, rydym yn cydweithio â’n cydweithwyr, ein cwsmeriaid a’n cymunedau i gyflawni manteision i bawb. Dim ond y dechrau yw’r hyn a welwch chi heddiw”.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y diwydiant i sicrhau bod ei phroses gwneud penderfyniadau’n foesegol ac yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gan ddod â budd i'r genhedlaeth hon a'r rhai i'w dilyn.

Nodiadau i olygyddion


Mae gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 saith nod: Cymru fwy ffyniannus, Cymru fwy cydnerth, Cymru iachach, Cymru fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus, Cymru o ddiwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu, a Chymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.   

Llwytho i Lawr