- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
05 Awst 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dechrau gosod peiriannau gwerthu tocynnau newydd a defnyddio cardiau clyfar ar lawer o’u llwybrau ledled rhwydwaith Cymru a’r Gororau.
Bydd y dechnoleg newydd a’r opsiwn digyffwrdd i gwsmeriaid yn gwella mesurau diogelwch yn y frwydr yn erbyn Covid-19.
Mae’r peiriannau tocynnau modern gyda gwell cydrannau Cymraeg a phictogramau cyffyrddadwy ar gyfer cwsmeriaid â nam ar eu golwg eisoes wedi’u gosod mewn bron i 20 gorsaf, gan gynnwys Caerdydd Canolog, Penarth, Rhymni, Bargoed a Phontlotyn. Mae gan rai gorsafoedd fel Tir-phil a Hengoed gyfleusterau gwerthu tocynnau am y tro cyntaf erbyn hyn. Mae eraill fel Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael peiriannau newydd yn lle hen rai.
Gellir defnyddio’r cardiau clyfar, y gall cwsmeriaid eu defnyddio i gasglu’r tocynnau tymor y maent wedi’u prynu ar-lein, ar fwy na 20 llwybr bellach, gan gynnwys Caerdydd i’r Amwythig, Wrecsam i Bidson ac Abertawe i Aberdaugleddau. Gellir defnyddio cardiau clyfar i brynu tocynnau wythnosol, misol a blynyddol.
Mae dilyswyr platfform wedi’u gosod ym Mhenarth, Heol Dingle, y Bari ac Ynys y Bari i gefnogi’r newid hwn. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno’n raddol yng ngorsafoedd llinell Rhymni o 27 Gorffennaf 2020 ymlaen gyda golwg ar eu gosod ledled rhwydwaith cyfan Metro De Cymru.
O 10 Awst 2020 ymlaen, bydd y dilyswyr hyn yn fyw i gwsmeriaid lwytho archebion tocynnau tymor ar eu cardiau clyfar – mae TrC yn gobeithio ychwanegu swyddogaeth bellach at y dilyswyr platfform yn ystod y misoedd nesaf.
Meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae gwella profiad cwsmeriaid yn un o’n prif flaenoriaethau ac mae gosod peirannau tocynnau newydd, modern a darparu cardiau clyfar yn gam pwysig ymlaen
“Rydym yn gweddnewid trafnidiaeth ledled rhwydwaith Cymru a’r Gororau ac mae’r gwaith yn cynnwys trawsnewid ffisegol ond hefyd defnyddio technoleg a chyflwyno’r mesurau mwyaf modern ac effeithlon i ni weithredu ein gwasanaethau.
“Rydym yn wynebu sawl her yn sgil Covid-19 ac mae cynnig opsiynau digyffwrdd yn gwella diogelwch cydweithwyr a staff a fydd o gymorth mawr gyda’n mesurau cadw pellter cymdeithasol.”
Meddai James Brooke, Cyfarwyddwr Integreiddio yng Ngwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:
“Rydym yn falch o fod yn buddsoddi’n sylweddol mewn technoleg glyfar i’w gwneud hi hyd yn oed yn haws i gwsmeriaid brynu a chasglu eu tocynnau cyn iddynt fynd ar y trên.
“Trwy ymestyn ein Cardiau Clyfar i allu derbyn tocynnau wythnosol, misol a blynyddol ar fwy o lwybrau, rydym yn rhoi cymaint o opsiynau â phosibl i’n cwsmeriaid brynu eu tocynnau.
“Rydym wedi gorfod gweithio’n galed i sicrhau y gall y buddsoddiadau hyn fynd rhagddynt er gwaethaf y cyfyngiadau Covid-19 presennol, i roi’r gallu i fwy o gwsmeriaid nag erioed i brynu eu tocynnau’n ddigyffwrdd.
“Bydd y peiriannau tocynnau newydd yn cael eu cyflwyno’n raddol ledled ein rhwydwaith, gyda 238 yn cael eu gosod mewn 143 gorsaf ledled rhwydwaith Cymru a’r Gororau.
Am ragor o wybodaeth am Gardiau Clyfar ac i archebu eich un chi heddiw, cliciwch yma.
Nodiadau i olygyddion
Mae Peiriannau Tocynnau newydd wedi’u gosod yn:
- Bargoed
- Y Bari (Tref)
- Tref y Bari
- Ynys y Bari
- Brithdir
- Caerdydd Canolog
- Heol Dingle
- Gilfach Fargoed
- Lefel Uchel y Mynydd Bychan
- Hengoed
- Llysfaen a Draenen Pen-y-Graig
- Llanisien
- Penarth
- Pengam
- Pontlotyn
- Rhymni
- Tir-phil
- Ystrad Mynach
Gellir defnyddio cardiau clyfar ar gyfer tocynnau tymor wythnosol, misol a blynyddol ar y llwybrau canlynol erbyn hyn:
- Aberystwyth – Amwythig
- Pen-y-bont ar Ogwr – Caerdydd Canolog (drwy’r Llinell Bro Morgannwg)
- Caerdydd Canolog – Bae Caerdydd
- Caerdydd Canolog – Parcffordd Glynebwy
- Caerdydd Canolog – Merthyr Tudful ac Aberdâr
- Caerdydd Canolog – Rhymni
- Caerdydd Canolog – Amwythig
- Caerdydd Canolog – Treherbert
- Caerdydd Stryd y Frenhines – Ynys y Bari
- Caerdydd Stryd y Frenhines – Maesteg
- Caerdydd Stryd y Frenhines – Penarth
- Caerfyrddin – Doc Penfro
- Llinell y Ddinas (Coryton – Radyr)
- Lydney – Abertawe
- Amwythig– Birmingham International
- Amwythig – Crewe – Manchester Piccadilly
- Amwythig – Wrecsam – Caer – Caergybi
- Abertawe – Caerfyrddin – Aberdaugleddau
- Wrecsam – Bidston