Skip to main content

South Wales Metro railway transformational works begin

09 Gor 2020

Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn dechrau’r gwaith trawsnewid llinell y rheilffordd ar 3 Awst 2020 ac yn gyrru ymlaen â’r cynlluniau i gyflawni Metro De Cymru, a fydd yn golygu bod teithio’n haws, yn gyflymach ac yn fwy hwylus i bobl yn Ne Cymru.

Bydd Metro De Cymru hefyd yn creu llu o gyfleoedd swyddi, busnes, addysg a chyfleoedd eraill i bobl ac i fusnesau De Cymru.

Fel rhan o’i fuddsoddiad o dri chwarter biliwn o bunnoedd yn y Metro, sy'n cynnwys £164,000,000 o cyllid Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru,, bydd TrC yn dechrau ar y gwaith trawsnewid hanfodol ar linellau rheilffordd ledled De Cymru ar 3 Awst 2020.

Yn gynharach eleni, cwblhaodd TrC drosglwyddo asedau rheilffordd, sy’n cael eu galw’n lleol yn Llinellau Craidd y Cymoedd, o Network Rail i’w berchnogaeth.

Roedd y cam arloesol a thrawsnewidiol hwn gan TrC wedi dod â’r gweithredwr trenau a’r cynhaliwr asedau rheilffordd at ei gilydd, gan greu dull gweithredu cyson fel ‘un tîm’ ar gyfer y Metro. 

Cafodd ei disgrifio gan y diwydiant rheilffordd fel integreiddio fertigol, ac mae’r ffordd newydd yma o weithio yn chwyldroadol ac yn unol ag uchelgais Llywodraeth Cymru i weld TrC yn gweithredu neu’n cael perchenogaeth uniongyrchol o rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru.

Bellach mae TrC wrthi’n datblygu Metro De Cymru a fydd yn golygu gwaith seilwaith sylweddol, gan gynnwys trydaneiddio dros 170 km o gledrau yn bennaf â llinellau uwchben, uwchraddio gorsafoedd a signalau, ac adeiladu o leiaf pum gorsaf newydd. 

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i gyflawni Metro De Cymru ac rydym ni wedi symud ymlaen nawr i wneud rhagor o waith trawsnewid.

“Ddechrau’r flwyddyn, gwnaethon ni agor ein Canolfan Seilwaith Metro yn Nhrefforest yn ogystal â dechrau adeiladu ein Canolfan Reoli Metro yn Ffynnon Taf.  Rydyn ni wedi bod yn gwneud gwaith arolygu a dylunio ar hyd rheilffordd y cymoedd ac erbyn hyn yn barod i symud ymlaen i’r cam nesaf o drawsnewid y rheilffyrdd, a fydd yn dechrau ar 3 Awst 2020.

“Rydyn ni’n deall effaith Covid-19 ond byddwn yn dilyn yr holl gyngor perthnasol ar ddiogelwch gan Lywodraeth Cymru wrth i ni fwrw ymlaen â’n rhaglen fuddsoddi.”

Gan egluro’r gwaith datblygu sylweddol o’u blaenau, aeth James ymlaen i ddweud:

“Mae hwn yn brosiect unwaith mewn cenhedlaeth a drwy adeiladu Metro De Cymru rydyn ni’n gobeithio y byddwn yn helpu i adfywio’r economi yng Nghymru, yn enwedig wrth i ni gamu i’r cyfnod adfer yn dilyn Covid-19. Mae gennym waith seilwaith ffisegol sylweddol i’w wneud nawr er mwyn gweddnewid ein rhwydwaith rheilffyrdd, a gafodd ei hadeiladu gan fwyaf nôl yn oes Fictoria, er mwyn sicrhau ei fod yn barod ar gyfer ein gwasanaethau trenau newydd a fydd yn gyflymach, yn wyrddach ac yn fwy aml. 

“Gobeithiwn y bydd pobl de Cymru a’n cymdogion sy’n byw wrth ymyl ein rheilffyrdd yn edrych ymlaen at y cyfleoedd a ddaw yn sgil Metro De Cymru.  Hoffwn hefyd dawelu eu meddyliau - er bod gennym ni lot fawr o waith i’w wneud, byddwn yn gwneud ein gorau glas i darfu cyn lleied â phosib ar bobl wrth i ni ymgymryd â’r gwaith a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am y cynnydd wrth i’r gwaith fynd rhagddo.”  

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Mae’n braf gweld gwaith yn dechrau i gyflawni’r cynllun uchelgeisiol hwn. Drwy ei gwneud hi’n haws i bobl deithio yn y dyfodol, bydd yn sicrhau bod gan gymunedau well cysylltiad yn ogystal â gwella’r mynediad at gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd. Mae gwaith trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn cynnig cyfle go iawn i helpu i adfer yr economi ar ôl Covid-19 drwy ddefnyddio cadwyni cyflenwi lleol i ailadeiladu’n well.

“Mae ein buddsoddiad mewn systemau Metro yng ngogledd a de Cymru yn dystiolaeth o’n hymrwymiad i sefydlu rhwydwaith trafnidiaeth modern a fydd yn diwallu anghenion Cymru yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Kevin Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:

" Mae'n glod mawr bod bawb sy'n gysylltiedig, hyd yn oed wrth wynebu'r cyfnod heriol hwn, yn gallu parhau â'n gwaith trawsnewidiol ar rwydwaith rheilffyrdd  Trafnidiaeth Cymru. Dechreuodd hyn gyda throsglwyddiad asedau Llinell Graidd y Cymoedd o Network Rail yn ôl ym mis Mawrth, ac mae'n parhau wrth i ni symud ymlaen gyda chynlluniau cymhleth a fydd yn cyflenwi'r Metro, a'r holl fanteision a ddaw yn sgil hyn i bobl a chymunedau lleol.”

Bydd y gwaith i adeiladu Metro De Cymru yn gyrru ymlaen ddydd a nos dros yr haf, a bydd TrC yn gwneud trefniadau teithio eraill i gwsmeriaid pan fydd y gwaith yn cael ei wneud. Disgwylir i’r gwaith trawsnewid gymryd tair blynedd a gall cwsmeriaid TrC a chymdogion agos edrych ar https://trc.cymru/prosiectau/metro/cwestiynau-cyffredin i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd. 

Bydd gwasanaethau trên ‘cyrraedd a mynd’ mwy fforddiadwy  yn rhan allweddol o Fetro De Cymru, a fydd yn rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus o’r radd flaenaf sy'n cyfuno trenau, bysiau, beicio a cherdded.

Gall cwsmeriaid ddisgwyl mwy o le, teithiau cyflymach a chysylltiadau gwell rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth.  Bydd y gwasanaethau hefyd yn fwy gwyrdd, yn fwy aml, yn fwy hygyrch, yn fwy dibynadwy ac yn dawelach i’r rhai sy'n byw’n agos at y rheilffordd. 

Bydd TrC yn ymdrechu i weithio’n gyfrifol, gan sicrhau bod safleoedd yn cael eu rheoli’n dda a bod y gweithwyr yn ystyriol o gymdogion.  Maen nhw’n gweithio’n agos gyda chymunedau a busnesau lleol i egluro beth maen nhw’n ei wneud a dod o hyd i ffyrdd o geisio sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith a threfniadau teithio eraill, ewch i https://trc.cymru/prosiectau/metro

Llwytho i Lawr