Skip to main content

Transport for Wales reinforces Travel Safer message to Public

21 Meh 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn atgyfnerthu ei neges Teithio'n Saffach, gan annog pobl ddim ond i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau hanfodol pan nad oes ffordd arall o deithio ar gael.

Drwy redeg llai o wasanaethau gyda chapasiti cyfyngedig oherwydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol, mae TrC yn anfon neges glir bod trafnidiaeth gyhoeddus ar gael er mwyn cynnig lle diogel i weithwyr allweddol.

Gan fod busnesau nad ydynt yn rhai hanfodol yn agor wythnos nesaf, mae TrC yn apelio ar y cyhoedd i feddwl am sut byddant yn teithio a deall mai cyfyngedig yw’r lle sydd ar gael ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae TrC wedi cyflwyno mesurau diogelwch ychwanegol yn eu gorsafoedd ac ar eu trenau gan gynnwys mesurau cadw pellter cymdeithasol, systemau unffordd, glanhau ychwanegol a dilyn cyngor y llywodraeth ynghylch gorchuddion wyneb.

Roedd lansio eu hymgyrch Teithio'n Saffach ychydig o wythnosau yn ôl yn hyrwyddo pum prif egwyddor ar gyfer defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus; arhoswch yn lleol, osgowch y cyfnodau prysur, cadwch yn heini wrth deithio a pharchwch ein staff a’r teithwyr eraill bob amser.

Mae TrC eisoes wedi gweld enghreifftiau o bobl yn anwybyddu ac yn difwyno ein harwyddion, eistedd mewn seddi sy’n amlwg wedi cael eu marcio ar gyfer cadw pellter cymdeithasol a pheidio â dilyn y canllawiau unffordd mewn gorsafoedd. Mae'r mesurau diogelwch hyn yno er mwyn diogelu cydweithwyr a chwsmeriaid, ac mae TrC yn gofyn i’r cyhoedd ddilyn y canllawiau.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Diogelwch cwsmeriaid a chydweithwyr yw’r brif flaenoriaeth ac rydyn ni’n gofyn i bawb beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oni bai fod gwneud hynny’n hanfodol ac nad oes ffordd arall o deithio ar gael.

“Mae ein capasiti wedi lleihau’n sylweddol oherwydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol ac mae’n rhaid i ni gadw lle diogel i’r gweithwyr allweddol hynny sy’n defnyddio ein gwasanaethau.   Os oes yn rhaid i bobl deithio, rydyn ni’n gofyn i gwsmeriaid gofio’r pum egwyddor Teithio'n Saffach – maen nhw yno er lles pawb.”