Skip to main content

Transport for Wales bus pilot extends to Cardiff

26 Meh 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a Grŵp NAT i ymestyn cynllun peilot ‘fflecsi’ i ogledd Caerdydd.

Mae fflecsi yn galluogi pobl i wneud cais am wasanaeth bws ar-alw i wneud teithiau hanfodol, a fydd yn eu codi o fannau ger eu cartrefi, eu gwaith neu siopau, yn hytrach na dilyn amserlen benodedig mewn safleoedd bysiau sefydlog.

Mae fflecsi yn defnyddio technoleg ViaVan ac fe gafodd ei lansio am y tro cyntaf gan Trafnidiaeth Cymru a Newport Bus ym mis Mai, gan ddisodli nifer o wasanaethau bysiau sefydlog lleol yng Nghasnewydd. Mae wedi cael adborth cadarnhaol yn ystod y mis cyntaf iddo fod yn weithredol.

Bydd teithwyr yn gallu archebu sedd drwy ap symudol fflecsi neu drwy ffonio 0300 234 0300. I archebu, bydd teithwyr yn dewis man codi a man gollwng, ac yn cael eu neilltuo i sedd mewn bws capasiti uchel sy’n cydymffurfio’n llwyr â’r canllawiau iechyd cyhoeddus o ran cadw pellter cymdeithasol.

Bydd technoleg ViaVan yn cyfeirio teithwyr at “safle bws rhithiol” i gael eu codi, sy’n eu galluogi nhw i deithio’n gyflym ac yn effeithlon heb orfod dilyn gwyriadau hir, amserlenni neu lwybrau sefydlog.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot yng Nghasnewydd, bydd yn cael ei gyflwyno yng ngogledd Caerdydd fel y cam nesaf yn ei ddatblygiad.

Mae llwybr NAT G1, a fydd yn newid i fod yn wasanaeth fflecsi ar 29 Mehefin, yn rhedeg rhwng Gwaelod-y-garth a Mynachdy, gan gynnwys ardaloedd fel yr Eglwys Newydd, Tongwynlais, Melingruffydd, Ystum Taf a Coryton.

fflecsi north Cardiff map cym

Mae ardaloedd gwasanaeth wedi cael eu dylunio ar gyfer teithiau hanfodol a byddant yn cynnwys cyrchfannau allweddol fel Ysbyty Athrofaol Cymru, Canolfan Ganser Felindre, gorsaf drenau Llandaf ac archfarchnadoedd.

Fel rhan o’r cynllun peilot yng Nghaerdydd, bydd gwasanaethau fflecsi yn rhedeg rhwng 07:40 a 18:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae fflecsi yn dreial cyffrous iawn i ni wrth inni barhau i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.  Mae pandemig covid-19 wedi effeithio’n uniongyrchol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac, wrth i ni symud ymlaen, diogelwch ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth bennaf o hyd.

“Mae’r cynllun peilot newydd hwn yn rhoi'r cyfle i ni i edrych ar ffordd newydd o redeg trafnidiaeth gyhoeddus ac, yn yr amgylchiadau presennol, bydd yn caniatáu i gwmnïau bysiau gludo pobl o un lle i’r llall a chadw pellter cymdeithasol.

“Rydw i wrth fy modd bod fflecsi wedi cael derbyniad cadarnhaol yng Nghasnewydd, ac fe hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o’r prosiect am eu gwaith caled. Rydw i’n edrych ymlaen at weld beth allwn ni ei ddysgu o gam nesaf y cynllun peilot yng ngogledd Caerdydd a sut gallem ddefnyddio hyn mewn ardaloedd eraill yn y dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod o'r Cabinet ar gyfer Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Caerdydd:

“Rydw i’n falch bod Caerdydd yn treialu’r dechnoleg hon a ffordd newydd o weithio. Cyn pandemig covid-19, fe wnaeth y cyngor nodi ein gweledigaeth strategol ar gyfer y ddinas drwy ein Papur Gwyn Trafnidiaeth.

“Mae gwella teithiau bws yn rhan bwysig o’n cynlluniau, fel opsiwn ymarferol i gymudwyr ac i'r rheini sydd eisiau teithio o gwmpas y ddinas. Wrth i ni fynd ati i adfer ar ôl y cyfyngiadau symud, does dim dwywaith y bydd yn gyfnod heriol i’r holl ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd y system newydd yn gwella effeithlonrwydd, gan sicrhau mai dim ond pan fydd galw am y gwasanaeth y bydd bysiau’n rhedeg, a bod cwsmeriaid yn gallu cadw pellter cymdeithasol wrth deithio. Os bydd y cynllun peilot yn llwyddiant, byddwn yn edrych ar ardaloedd eraill o'r ddinas a allai gael budd o gynllun tebyg.”

Dywedodd Chris Snyder, Prif Weithredwr ViaVan:

“Mae fflecsi yn gyfle i ranbarthau dinesig ledled y DU ddefnyddio technoleg i adfywio a thrawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus. Rydyn ni’n falch o weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddangos sut gall trafnidiaeth seiliedig ar alw chwarae rhan bwysig yn y broses o gyflwyno gwasanaethau symud hyblyg, effeithlon a chyfleus, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ymestyn gwasanaeth fflecsi i brifddinas Cymru, Caerdydd.”

Ychwanegodd Adam Keen, Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp NAT:

“Mae Grŵp NAT yn falch o fod yn bartner gweithredol yn y prosiect arloesol a blaengar hwn, sy’n dod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau bod bysiau’n ddefnyddiol ac yn hygyrch i bobl. Os yw trafnidiaeth gyhoeddus am ffynnu a pharhau i fod yn ymarferol, bydd angen i’r cynlluniau peilot hyn ddod yn fwy a mwy cyffredin. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gael adborth gan deithwyr ar ôl i'r prosiect ddechrau, er mwyn ein galluogi ni i’w ddatblygu ymhellach.”

Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu ehangu’r gwasanaeth ar draws Cymru dros y flwyddyn nesaf, gan ychwanegu gwasanaethau a nodweddion newydd a dysgu o’r cynlluniau peilot yng Nghasnewydd a Chaerdydd.

I gael gwybod mwy, gan gynnwys manylion y gwasanaethau a sut mae archebu, ewch i fflecsi.cymru.