Skip to main content

Transport for Wales bus pilot extends to Denbighshire

03 Awst 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, M&H Coaches a Townlynx i ymestyn cynllun peilot ‘fflecsi’ i Sir Ddinbych.

Mae fflecsi yn galluogi pobl i wneud cais am wasanaeth bws ar-alw i wneud teithiau hanfodol, a fydd yn eu codi o fannau ger eu cartrefi, eu gwaith neu siopau, yn hytrach na dilyn amserlen benodedig mewn safleoedd bysiau sefydlog.

Mae fflecsi yn defnyddio technoleg ViaVan ac fe gafodd ei lansio am y tro cyntaf gan Trafnidiaeth Cymru a Newport Bus ym mis Mai, gan ddisodli nifer o wasanaethau bysiau sefydlog lleol yng Nghasnewydd. Mae hefyd wedi’i gyflwyno’n raddol gan TrC mewn rhannau eraill o Gymru, gan gynnwys mewn partneriaeth â Grŵp NAT yng Ngogledd Caerdydd a gyda Stagecoach yn Rhondda Cynon Taf.

Bydd teithwyr yn gallu archebu sedd drwy ap symudol fflecsi neu drwy ffonio 0300 234 0300. I archebu, bydd teithwyr yn dewis man codi a man gollwng, ac yn cael eu neilltuo i sedd mewn bws capasiti uchel sy’n cydymffurfio’n llwyr â’r canllawiau iechyd cyhoeddus o ran cadw pellter cymdeithasol.

Bydd technoleg ViaVan yn cyfeirio teithwyr at “safle bws rhithiol” i gael eu codi, sy’n eu galluogi nhw i deithio’n gyflym ac yn effeithlon heb orfod dilyn gwyriadau hir, amserlenni neu lwybrau sefydlog. Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot yn Ne Cymru, bydd yn cael ei gyflwyno yn Sir Ddinbych fel y cam nesaf yn ei ddatblygiad.

Mae’r gwasanaeth 66 gan M&H Coaches yn Ninbych a’r gwasanaeth 40 Townlynx ym Mhrestatyn yn troi’n wasanaethau fflecsi o heddiw (3 Awst).

Mae ardaloedd gwasanaeth wedi’u llunio ar gyfer teithiau hanfodol. Bydd y gwasanaethau yn cynnwys cyrchfannau allweddol fel rheilffyrdd a gorsafoedd bysiau, cyfleusterau iechyd a hamdden, archfarchnadoedd a chanol y dref.

Fel rhan o gynlluniau’r peilot, bydd gwasanaethau fflecsi yn Ninbych yn rhedeg rhwng 09:00 a 18:00, dydd Llun i ddydd Sadwrn, tra bydd gwasanaethau fflecsi ym Mhrestatyn yn rhedeg rhwng 09:30 a 14:30 dydd Llun i ddydd Gwener.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae fflecsi yn dreial cyffrous iawn i ni wrth inni barhau i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.  Mae pandemig covid-19 wedi effeithio’n uniongyrchol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac, wrth i ni symud ymlaen, diogelwch ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth bennaf o hyd.

“Mae’r cynllun peilot newydd hwn yn rhoi'r cyfle i ni i edrych ar ffordd newydd o redeg trafnidiaeth gyhoeddus ac, yn yr amgylchiadau presennol, bydd yn caniatáu i gwmnïau bysiau gludo pobl o un lle i’r llall a chadw pellter cymdeithasol.

“Rydw i wrth fy modd bod fflecsi wedi cael derbyniad cadarnhaol yn Ne Cymru, ac fe hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o’r prosiect am eu gwaith caled. Rydw i’n edrych ymlaen at weld beth allwn ni ei ddysgu o gam nesaf y cynllun peilot yn Sir Ddinbych a sut gallem ddefnyddio hyn mewn ardaloedd eraill yn y dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Wastraff, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd:

"Wrth i ni ddod allan o'r cyfnod clo a gweld mwy o alw am drafnidiaeth gyhoeddus, bydd fflecsi yn cynnig tawelwch meddwl i deithwyr, gan gynnwys seddi gwarantedig, mannau gollwng hyblyg, llai o amseroedd aros a gwell cysylltiadau i wasanaethau eraill.

"Bydd fflecsi yn gweld mwy o wasanaethau i deithwyr er mwyn helpu i gadw ein cymunedau'n gysylltiedig tra'n sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn ymweld â chanol ein trefi."

Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu ehangu’r gwasanaeth ar draws Cymru dros y flwyddyn nesaf, gan ychwanegu gwasanaethau a nodweddion newydd a dysgu o’r cynlluniau peilot.

Dywedodd Chris Snyder, Prif Swyddog Gweithredol ViaVan:

"Mae gan drafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw y potensial i lansio'n gyflym ddatrysiadau trafnidiaeth gyhoeddus newydd sy'n cael eu gyrru gan dechnoleg lle mae'r angen mwyaf, ac i ategu ymestyn y seilwaith llwybrau Sefydlog presennol lle mae eisoes yn gweithio'n dda. Mae fflecsi wedi dangos sut y gall drafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw chwarae rhan hanfodol wrth weddnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ac rydym yn falch o barhau i ehangu'r datrysiad symudedd hyblyg hwn gyda Trafnidiaeth Cymru yn Sir Ddinbych."

I gael gwybod mwy, gan gynnwys manylion y gwasanaethau a sut mae archebu, ewch i https://fflecsi.cymru

Llwytho i Lawr