Skip to main content

New bus service launched in Newport

19 Mai 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau lleol a chwmnïau bysiau i lansio prosiect peilot a fydd yn golygu bod pobl yn gallu gofyn am fws i’w casglu yn agos i’w cartref, y gwaith neu'r siopau ar gyfer teithiau hanfodol.

Newport Bus sy’n rhedeg y cynllun peilot cyntaf, a elwir yn “fflecsi”, a bydd trigolion mewn rhai rhannau o Gasnewydd yn gallu ei ddefnyddio o ddydd Llun 18fed Mai.

Mae fflecsi yn disodli nifer o wasanaethau bws lleol gyda gwasanaethau sy’n fwy hyblyg, sy’n gallu casglu a gollwng teithwyr wrth eu gwaith, siopau a’u cartrefi ar gais yn hytrach na dilyn amserlen bendant gan stopio ar safleoedd bws penodol.  

Bydd seddi ar fflecsi yn cael eu harchebu drwy ddefnyddio ap Android/Apple neu drwy ffonio 0300 234 0300.

Pan fydd teithiwr fflecsi wedi archebu gwasanaeth, bydd Newport Bus yn gallu gwarantu y bydd gan y teithiwr sedd a digon o le er mwyn cadw pellter cymdeithasol.  

Fel rhan o’r cynllun peilot yng Nghasnewydd, bydd gwasanaethau fflecsi yn rhedeg rhwng 07:30 a 18:30 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Mae ardaloedd gwasanaeth wedi cael eu dynodi ar gyfer teithiau hanfodol a byddant yn cynnwys lleoliadau allweddol fel ysbytai ac archfarchnadoedd.

Os bydd cynllun peilot cychwynnol fflecsi yn llwyddiannus, bydd TrC yn edrych ar gyflwyno'r cynllun mewn rhagor o ardaloedd.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

 "Gallai'r cynllun peilot y byddwn yn ei dreialu yng Nghasnewydd dros y 3 mis nesaf lywio gwasanaethau bysiau'r dyfodol. Er ein bod yn byw gyda'r cyfyngiadau ar ein bywydau bob dydd, gallai'r system drafnidiaeth hon sy'n ymateb i alw fod yn ateb i rai problemau a wynebir gan ein gweithwyr allweddol sy'n ceisio mynd i'r gwaith ac oddi yno ar adeg sy'n addas i'w sifftiau. Rydym hefyd yn bwriadu ehangu'r cynllun peilot hwn ac rydym yn gweithio gyda nifer o gwmnïau eraill i weithredu gwasanaeth trafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw.  

"Byddwn yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, TrC a'n partneriaid i fonitro ei lwyddiant."

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae fflecsi yn dreial cyffrous iawn i ni wrth inni barhau i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.  Mae pandemig covid-19 wedi effeithio’n uniongyrchol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac, wrth i ni symud ymlaen, diogelwch ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth bennaf o hyd.

“Mae’r cynllun peilot newydd hwn yn rhoi'r cyfle inni i edrych ar ffordd newydd o redeg trafnidiaeth gyhoeddus ac, yn yr amgylchiadau sydd ohoni ar hyn o bryd, bydd yn caniatáu i gwmnïau bysiau symud pobl o gwmpas a chadw pellter cymdeithasol.

“Rwyf yn edrych ymlaen at gael gweld beth allwn ni ei ddysgu o'r treial yng Nghasnewydd a sut gallem ddefnyddio hyn mewn ardaloedd eraill yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:

“Rydyn ni wrth ein bodd fod Casnewydd wedi cael ei dewis fel yr ardal beilot ar gyfer fflecsi, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n partneriaid yn Trafnidiaeth Cymru a Newport Bus am hwyluso hyn.

“Mae pandemig covid-19 yn sicr wedi effeithio ar y ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas, a bydd fflecsi yn chwarae rhan bwysig yn helpu ein trigolion i wneud siwrneiau hanfodol a darparu gwasanaethau allweddol.”

Dywedodd Scott Pearson, Rheolwr Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Casnewydd:

“Mae Trafnidiaeth Casnewydd yn falch o fod yn gweithio gyda TrC i dreialu dewis gwahanol i’n cwsmeriaid mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Yn y cyfnod heriol hwn mae’n rhaid i ni edrych ar ffyrdd gwahanol o wasanaethu pobl Casnewydd a’u cadw nhw’n ddiogel pan fyddan nhw ar ein bysiau, gan roi’r hyder iddyn nhw i deithio gyda ni.”

Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu ehangu’r gwasanaeth ar draws Cymru dros y flwyddyn nesaf, gan ychwanegu gwasanaethau a nodweddion newydd a dysgu o’r cynllun peilot yng Nghasnewydd. 

I gael gwybod mwy, gan gynnwys manylion y gwasanaethau a sut mae archebu, ewch i fflecsi.cymru.

Llwytho i Lawr