English icon English
FM Presser Camera 2

Cyfnod atal byr cenedlaethol y coronafeirws i gael ei gyhoeddi yng

National coronavirus fire-break to be introduced in Wales on Friday

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi £300m i gefnogi busnesau a fydd yn cael eu heffeithio

Heddiw, cyhoeddodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog y bydd “cyfnod atal” byr, llym yn cael ei gyflwyno ar gyfer Cymru gyfan ddiwedd yr wythnos hon er mwyn helpu i gael rheolaeth dros y coronafeirws unwaith yn rhagor.

Mae angen y cyfnod gweithredu a fydd yn para pythefnos er mwyn achub bywydau a sicrhau na fydd gormod o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). 

Wrth gyfarch pobl Cymru, dywedodd y Prif Weinidog: “Dyma’r foment inni ddod at ein gilydd a chwarae ein rhan mewn ymdrech ar y cyd i ddiogelu’r GIG ac achub bywydau. Fydd hon ddim yn dasg hawdd, ond fe fyddwn ni’n bwrw ati gyda’n gilydd.”

Bydd y cyfnod atal byr yn dechrau am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref ac yn dod i ben ddydd Llun 9 Tachwedd. Bydd yn berthnasol i bob un sy’n byw yng Nghymru a bydd yn dod yn lle’r cyfyngiadau lleol sydd ar waith ar hyn o bryd mewn rhai rhannau o’r wlad.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn o bron i £300m i gefnogi busnesau, a bydd y cyllid hwn yn cyd-fynd â’r cymorth cyflogau sydd ar gael oddi wrth Lywodraeth y DU.  

Mae achosion o’r coronafeirws wedi bod yn cynyddu’n sydyn yng Nghymru oherwydd bod y feirws wedi deffro ar gyfer y gaeaf. Er bod y camau cenedlaethol a lleol sydd wedi bod ar waith ledled Cymru wedi helpu i reoli lledaeniad y feirws, mae consensws yn datblygu hefyd fod angen cymryd camau pellach yn awr.

Rhwng 9 a 15 Hydref, cafodd 4,127 o achosion newydd o’r coronafeirws a gadarnhawyd eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar sail canlyniadau profion positif ond bydd lefel wirioneddol yr heintiadau lawer yn uwch. Mae nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty gyda symptomau o’r coronafeirws yn cynyddu bob dydd – yn anffodus, mae hyn hefyd yn wir am nifer y bobl sy’n marw o’r coronafeirws.

Mae’r rhif R rhwng 1.1 - 1.4 ar hyn o bryd, gan olygu bod twf cyflymach a chyflymach yn nifer yr achosion, ac mae’r gyfradd amlder dreigl saith diwrnod ar gyfer Cymru hefyd yn fwy na 130 o achosion fesul 100,000 o’r boblogaeth. 

Bydd y cyfnod atal yn un byr ond llym er mwyn sicrhau bod cymaint o effaith â phosibl ar y feirws.

  • Ar wahân i ddibenion cyfyngedig iawn, er enghraifft i gael ymarfer corff, rhaid i bobl aros gartref
  • Rhaid i bobl weithio gartref lle bynnag y bo hynny’n bosibl
  • Ni fydd hawl gan bobl ymweld â chartrefi eraill na chyfarfod â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw, o dan do nac yn yr awyr agored
  • Ni fydd hawl gan bobl ymgynnull yn yr awyr agored, er enghraifft i ddathlu Calan Gaeaf neu noson tân gwyllt nac ar gyfer unrhyw weithgareddau eraill a drefnwyd
  • Rhaid i bob busnes nad yw’n gwerthu bwyd, busnes lletygarwch, gan gynnwys caffis, bwytai a thafarndai (oni bai eu bod yn darparu gwasanaeth cludfwyd), gwasanaethau cysylltiad agos, fel siopau trin gwallt a harddwch, a digwyddiadau a busnesau twristiaeth, fel gwestai, gau
  • Bydd rhaid i ganolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu gau
  • Bydd rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, a fydd yn aros ar agor, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis.

Yn ystod y cyfnod hwn:

  • Bydd oedolion sy’n byw ar eu pennau eu hunain neu rieni sengl yn gallu ymuno ag un cartref arall i gael eu cefnogi
  • Bydd ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig yn ailagor fel arfer ar ôl y gwyliau hanner tymor
  • Bydd ysgolion uwchradd yn ailagor ar ôl y gwyliau hanner tymor ar gyfer plant blynyddoedd saith ac wyth a phlant sydd fwyaf agored i niwed. Bydd disgyblion yn gallu dod i’r ysgol i sefyll arholiadau ond bydd disgyblion eraill yn parhau i ddysgu gartref am wythnos arall
  • Bydd prifysgolion yn darparu cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar lein
  • Bydd y GIG a gwasanaethau iechyd yn parhau i weithredu
  • Bydd parciau lleol, mannau chwarae a champfeydd yn yr awyr agored yn aros ar agor

Ar ôl diwedd y cyfnod atal byr, cyflwynir set newydd o reolau cenedlaethol, yn cwmpasu sut y gall pobl gyfarfod a sut mae'r sector cyhoeddus a busnesau'n gweithredu.

Bydd busnesau y mae'r cyfnod atal yn effeithio arnynt yn cael eu cefnogi gan gronfa newydd gwerth £300m, a fydd yn agor yr wythnos nesaf:

  • Bydd pob busnes a gwmpesir gan y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael taliad o £1,000
  • Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch bach a chanolig eu maint, y mae rhaid iddynt gau, yn cael taliad untro o hyd at £5,000
  • Bydd grantiau dewisol ychwanegol a chymorth i fusnesau llai hefyd, sy'n cael pethau’n anodd
  • Bydd y gronfa o £80m a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf i helpu busnesau i ddatblygu yn y tymor hwy yn cynyddu i £100m, sy'n cynnwys £20m sydd wedi'i neilltuo ar gyfer twristiaeth a lletygarwch

Bydd busnesau hefyd yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ar gael drwy'r Cynllun Cadw Swyddi presennol neu'r Cynllun Cefnogi Swyddi newydd sydd wedi cael ei ehangu.

Mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at y Canghellor i ofyn iddo roi mynediad cynnar ar gyfer fusnesau Cymru at Gynllun Cefnogi Swyddi wedi’i ehangu newydd o ddydd Gwener ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig talu'r costau ychwanegol i gynllun Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau y gall busnesau gadw staff.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

 “Gyda chalon drom rydw i’n gofyn unwaith eto i bawb aros gartref ac i fusnesau gau.

“Rydyn ni i gyd wedi blino ar y coronafeirws a'r llu o reolau a rheoliadau y mae rhaid i bob un ohonom fyw gyda nhw. Rydyn ni i gyd am weld diwedd ar y pandemig hwn a chael ein bywydau yn ôl. Yn anffodus, nid oes gennym frechlyn eto, a fydd yn caniatáu inni wneud hynny.

“Y cyfnod atal byr hwn yw ein cyfle gorau i gael rheolaeth dros y feirws unwaith eto ac osgoi cyfnod cyfyngiadau llawer hirach – a niweidiol – yn genedlaethol. Mae gennyn ni gyfle i weithredu a hynny o fewn cyfnod byr.

“Er mwyn llwyddo, mae arnom angen cymorth pawb. Mae Cymru wedi dangos drwy gydol y pandemig hwn y gallwn ni ddod at ein gilydd a chymryd y camau i gadw ein teuluoedd a'n cymunedau'n ddiogel.

“Rhaid i ni ddod at ein gilydd unwaith eto i aros ar y blaen o ran y feirws hwn ac i achub bywydau.”