English icon English
Food bank-2

Cyllid newydd ar gyfer cyfleusterau a fydd yn hybu lles cymunedol - Ne-ddwyrain Cymru

New funding for facilities will boost community wellbeing

Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, gyllid o £900k gan Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau yn y gymuned drwy’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.

Mae’r rhaglen hon, sy’n ariannu prosiectau o hyd at uchafswm o £250,000, neu hyd at £25,000 ar gyfer grantiau llai, yn helpu cyfleusterau cymunedol sy’n cael eu defnyddio’n helaeth i wella eu cynaliadwyedd ariannol a/ neu amgylcheddol, gan roi cyfleoedd i bobl leol wella eu bywydau o ddydd i ddydd.

Mae’r prosiectau sy’n derbyn cyllid yn Ne-ddwyrain Cymru yn cynnwys:

  • Maindee Unlimited, Casnewydd - £204,177 tuag at y gost cyfanswm o £230,000 i greu toiledau cyhoeddus, gofod cymunedol gyda chyfleusterau cegin a thirlunio’r gofod gwyrdd yn yr awyr agored.
  • Canolfan Ieuenctid Cwmbrân, Torfaen - £148,556 tuag at y gost o £193,556 i greu canolfan hyfforddiant gyda chegin, toiledau a gardd gymunedol yn ogystal â mynedfa newydd gyda lifft a gosod arwynebedd newydd yn yr iard ar gyfer mynediad i bobl anabl.
  • Theatr Beaufort, Blaenau Gwent - £10,000 tuag at y gost o £12,000 i uwchraddio ei system foeler.
  • Smart Money Cymru, Caerffili - £7,000 tuag at y gost cyfanswm o £10,700 i uwchraddio ei portakabin presennol.
  • Clwb Pêl-droed ac Athletau Iau Llanyrafon, Torfaen - £25,000 tuag at y gost o £41,056 i uwchraddio ei ystafelloedd newydd a maes chwarae i chwaraewyr hŷn.

Dywedodd Jane Hutt:

“Mae pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at rai heriau penodol mewn cymunedau, megis iechyd meddwl a lles cymdeithasol. Mae rhannu ymrwymiad yn atgyfnerthu cymunedau gofalgar, bywiog, lle y mae dinasyddion yn cael eu tynnu ynghyd drwy gysylltiadau agos sy’n cael eu meithrin drwy gydweithredu a gwaith tîm. Yn sgil hynny mae llai o anghydraddoldeb ac mae’r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein plith yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

“Mae Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i rai prosiectau lleol ffantastig esblygu a thyfu i ddiwallu anghenion penodol eu hardaloedd.

“Mae cynnig grantiau tebyg i’r rhain i brosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned yn helpu i wella cyfleusterau sydd eu hangen yn fawr, sy’n chwarae rhan mor bwysig ym mywydau pobl ledled Cymru. Dw i eisiau ystyried a dathlu’r cyfraniad enfawr a wneir gan sefydliadau’r trydydd sector a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mor galed yn eu cymunedau i roi help a chymorth hanfodol lle y mae ei angen fwyaf.”

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans:

“Dw i’n falch i allu darparu cyllid ar gyfer y sector cymunedol ledled Cymru.

“Er gwaetha’r heriau digynsail rydym wedi eu hwynebu yn ystod y pandemig, mae ysbryd cymunedol a gallu pobl Cymru i oresgyn problemau wedi disgleirio. Bydd y cyllid rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn parhau i helpu i ddod â chymunedau at ei gilydd drwy roi cymorth i brosiectau lleol.”

Mae ceisiadau ar gyfer y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar agor drwy gydol y flwyddyn a gall sefydliadau gael rhagor o wybodaeth drwy chwilio am y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar llyw.cymru.