English icon English
MR-12

Marcus Rashford MBE yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod pob gwyliau ysgol tan Pasg 2021

Marcus Rashford MBE backs Welsh Government decision to ensure free school meal provisions for every school holiday until Easter 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwarantu y bydd prydau ysgol am ddim yn cael eu darparu yn ystod pob gwyliau ysgol hyd at a chan gynnwys Pasg 2021, diolch i £11m a gadarnhawyd heddiw gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Fe gafodd y penderfyniad ei ganmol gan chwaraewr pêl-droed Manchester United, Marcus Rashford, a ddywedodd ei fod yn croesawu ymateb sydyn Llywodraeth Cymru i’r angen i ddiogelu’r plant mwyaf agored i niwed ar draws y wlad ar frys. 

Wrth wneud y cyhoeddiad cyn hanner tymor mis Hydref drwy fideo a ryddhawyd ar ei sianel Twitter, dywedodd y Gweinidog ei bod yn gobeithio y byddai'r cadarnhad yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd. 

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd fod mwy na £700k wedi'i neilltuo i helpu colegau gyda'r ddarpariaeth gyfatebol ar gyfer dysgwyr cymwys.

Wrth siarad heddiw, dywedodd y Gweinidog: "Rydyn ni wedi gweithio'n ddiflino eleni i ymateb i'r pandemig coronafeirws a'r heriau di-rif sydd wedi codi yn ei sgil, ond dydyn ni ddim wedi, nac yn mynd i, anghofio'r rhai sy’n dibynnu ar yr ysgol am lawer mwy nag addysg.

"Mae'n bleser gen i gadarnhau ein bod ni heddiw wedi neilltuo £11m ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim yn ystod pob gwyliau ysgol hyd at a chan gynnwys Pasg 2021.

"Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl yn y cyfnod hwn o ansicrwydd."

 

Ychwanegodd Marcus Rashford MBE: “Mae darpariaeth yn ystod y gwyliau yn hanfodol i sicrhau sefydlogrwydd ar aelwydydd tra bo ysgolion ar gau, gan ystyried effeithiau andwyol Covid-19.

“Mae’r ffaith bod y fframwaith hwn yn ei le am y tro yn mynd i gael effaith gadarnhaol sylweddol ar blant sy’n cael trafferth dysgu yn sgil pryder ac ofn, gyda’u stumogau’n cnoi ag awydd bwyd.

“Ni ddylai unrhyw blentyn yn 2020 fod yn eistedd mewn ystafell ddosbarth yn poeni sut mae’n mynd i gael bwyd yn ystod y gwyliau, a’r effaith y bydd yn ei gael ar rieni sy’n dygymod â diweithdra, afiechyd ac mewn rhai achosion, colled bersonol.

“Mae gymaint o waith i’w wneud o hyd i amddiffyn y genhedlaeth nesaf, ond rwy’n croesawu ymateb sydyn Llywodraeth Cymru i’r angen i ddiogelu’r plant mwyaf agored i niwed ar draws y wlad ar frys. Ein plant a’u lles ddylai fod yn flaenoriaeth i ni bob tro.”

 

Mae sicrhau bod prydau ysgol am ddim yn parhau i gael eu darparu wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru wrth ymateb i'r pandemig coronaferiws – roedd eisoes wedi neilltuo £41.7m cyn y cyhoeddiad heddiw, gan ddod â'r cyfanswm yn awr i £52.7m.

Pan gyhoeddodd y Gweinidog y byddai'n cau ysgolion ddydd Mercher, 18 Mawrth, cadarnhaodd yn gyflym y byddai £7 miliwn ar gael i awdurdodau lleol i roi mesurau ar waith er mwyn sicrhau y byddai plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn parhau i elwa o'r cynllun hwnnw.

Yna ar Ebrill 22, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i warantu cyllid pellach er mwyn i blant barhau i gael prydau ysgol am ddim hyd at ddiwedd gwyliau'r haf.

Ar 20 Medi, ar ôl i ysgolion ailagor, cadarnhaodd y Gweinidog fod £420,000 wedi'i neilltuo i sicrhau y byddai pob disgybl sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn parhau i’w derbyn wrth hunanwarchod neu hunanynysu.