English icon English
man at sewage plant-2

Dŵr gwastraff yn dangos a yw’r Covid ar gynnydd yn lleol

Waste water signals local Covid spikes

Mae rhaglen beilot sy’n monitro’r coronafeirws yn systemau carthffosiaeth Cymru yn profi bod dŵr gwastraff yn gallu dangos a yw’r feirws ar gynnydd yn y gymuned.

Cafodd y rhaglen ei lansio ym mis Mehefin ac mae 20 o safleoedd ledled Cymru ac 80% o boblogaeth Cymru bellach yn cael eu monitro.

Ymchwilwyr o brifysgolion Cymru oedd y cyntaf yn y DU i gynnal arolwg cenedlaethol o’r COVID-19 mewn canolfannau trefol mawr ac yng Nghymru y cafodd y dechnoleg ei datblygu i allu gwneud hyn.

Maen nhw wedi bod yn mesur presenoldeb y feirws SARS-CoV-2 mewn dŵr gwastraff oherwydd bron bob tro y ceir achosion wedi’u cadarnhau o’r coronafeirws, mae’r feirws wedi bod yn bresennol mewn gwastraff dynol.

Cafodd y feirws mewn dŵr gwastraff ei fonitro hefyd i fesur llwyddiant y cyfnod clo cyntaf a rhennir data hefyd â system Profi Olrhain Diogelu Cymru iddynt gael gwybod ble mae’r achosion diweddaraf.

Nid oes tystiolaeth yn ôl y WHO bod systemau carthffosiaeth yn lledaenu’r coronafeirws.

Neilltuodd Llywodraeth Cymru bron £500,000 i gonsortiwm o dan arweiniad Prifysgol Bangor, gyda Phrifysgol Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Dŵr Cymru Welsh Water.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“I rwystro’r coronafeirws rhag lledaenu, roedd angen ffordd arnom i fesur ei bresenoldeb yn ein cymunedau ac i fonitro unrhyw newidiadau.  Diolch i’r rhaglen beilot hon, rydym wedi gallu datblygu system annibynnol sy’n gallu rhoi rhybudd cynnar i ni a syniad i ni o faint o bobl yn ein cymunedau sydd wedi’u heintio.  Mae’r prosiect hwn eisoes yn ategu ein rhaglenni iechyd cyhoeddus ehangach, gan gynnwys ein rhaglen Profi Olrhain Diogelu lwyddiannus.

“Mae’r rhaglen eisoes yn cael ei gweld fel cyfle arall i gryfhau’r partneriaethau sydd gennym yma yng Nghymru rhwng ein gwyddorau amgylcheddol, systemau monitro clefydau a genomeg pathogenau.”

Dywedodd yr athro Gwyddorau Pridd a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Bangor, Davey Jones:

“Rydym wedi bod yn monitro feirysau fel y Norofeirws a Hepatitis mewn carthffosiaeth ddynol ers degawd, fel rhan o raglen i fesur lefelau’r feirysau hyn yn y gymuned.  Ychwanegon ni’r COVID-19 at y rhestr fonitro ym mis Mawrth eleni.

“Gwelsom fod lefelau’r feirws mewn dŵr gwastraff yn ffordd effeithiol iawn o ddangos llwyddiant y cyfnod clo yn ystod ton gyntaf y COVID-19 ac o ddangos ymddangosiad yr ail don.  Rydyn ni’n ei ddefnyddio nawr i dracio a rheoli achosion COVID-19 ac yn gweithio ar dreialon newydd i fapio’r feirws ar y lefel leol a rhanbarthol.”

Dywedodd yr Athro yn is-adran Organeddau a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd, Andrew Weightman:

“Trwy fonitro signal feirws y SARS-CoV-2 mewn dŵr gwastraff i fapio presenoldeb y COVID-19 ledled Cymru, rydym yn profi’r manteision mawr sy’n dod o fonitro dŵr gwastraff i iechyd cyhoeddus ein gwlad.

“Mae’r cyllid a gawsom gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect wedi sicrhau’r adnoddau inni allu datblygu’r seilwaith a’r cysylltiadau ymchwil roedd eu hangen i feithrin consortiwm deinamig sy’n cynnwys Prifysgolion Caerdydd a Bangor, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Dŵr Cymru Welsh Water.  Trwyddo, rydym yn cynhyrchu, dadansoddi ac yn cyfathrebu data i’n helpu i dracio’r feirws dros yr argyfwng presennol.

“Mae’r prosiect yn ein helpu i ddeall mwy am y pandemig ac i hysbysu pobl eraill: ymchwilwyr, staff gofal iechyd, y llywodraeth a llunwyr polisi, a’r cyhoedd.”

Yn ogystal â monitro’r coronafeirws, bydd y systemau’n dangos a oes mathau eraill o feirysau anadlol, norofeirysau a hepatitis yn bresennol, a bydd hynny’n help i gadw golwg ar iechyd y bobl.

Mae Prifysgol Abertawe wedi dechrau ar ail brosiect dŵr gwastraff, i ddatblygu dyfais samplu a chofnodi integredig i ragweld achosion o heintiadau Covid-19, hynny hefyd gydag arian gan Lywodraeth Cymru.