English icon English

Codi lefel y risg o Ffliw Adar o isel i ganolig cyn tymor mudo'r gaeaf

Avian Influenza incursion risk raised to medium ahead of winter migration season

Heddiw, mae Prif Filfeddygon Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi codi lefel y risg y bydd ffliw adar yn dod i mewn i'r DU o 'isel' i 'ganolig' ar ôl i ddau achos o'r clefyd gael eu cadarnhau mewn dau alarch yn yr Iseldiroedd.

Gall adar gwyllt sy'n mudo tua’r gorllewin o dir mawr Ewrop yn ystod cyfnod y gaeaf ledaenu'r clefyd i ddofednod ac adar caeth eraill. Fodd bynnag, mae gan y DU fesurau bioddiogelwch cadarn a threfniadau monitro yn eu lle i atal y clefyd rhag lledaenu yn y wlad hon, ac mae'r risg o drosglwyddo firysau ffliw adar i'r cyhoedd yn Ewrop yn parhau'n isel iawn.

Dyma a ddywedwyd mewn datganiad gan bedwar Prif Swyddog Milfeddygol y DU:

"Ar ôl i ddau achos o ffliw adar H5N8 gael eu cadarnhau yn yr Iseldiroedd, rydym wedi codi lefel y risg y bydd yn cael ei ledaenu i'r DU gan adar mudol cyn tymor mudo'r gaeaf. Mae lefel y risg bellach yn ganolig. Mae'r risg y bydd y clefyd yn cael ei gyflwyno i ffermydd dofednod yn y DU yn parhau'n isel.

"Rydym yn monitro'r sefyllfa'n ofalus a dylai ceidwaid adar barhau i fod yn effro i unrhyw arwyddion o glefydau, i roi gwybod i’r awdurdodau ar unwaith os ydynt yn amau bod achosion o’r clefyd, ac i sicrhau eu bod yn cynnal bioddiogelwch da ar eu safle."

Mae rhai mesurau syml y dylai pawb sy’n cadw dofednod, p'un a ydynt yn rhedeg fferm fasnachol fawr, yn cadw ychydig o ieir yn eu gardd gefn, neu'n magu adar hela, eu cymryd i ddiogelu eu hadar rhag bygythiad ffliw adar yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cadw'r man lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus, gan reoli llygod mawr a llygod a glanhau a diheintio unrhyw arwynebau caled yn rheolaidd
  • Glanhau esgidiau cyn ac ar ôl ymweliadau
  • Rhoi bwyd a dŵr adar mewn mannau cwbl gaeedig sy'n cael eu diogelu rhag adar gwyllt, a chael gwared yn rheolaidd ar unrhyw fwyd sydd wedi gollwng
  • Rhoi ffensys o amgylch mannau awyr agored lle caniateir adar, a chyfyngu ar eu mynediad i byllau neu fannau y mae adar dŵr gwyllt yn ymweld â nhw
  • Os yw hynny’n bosibl, dylech osgoi cadw hwyaid a gwyddau gyda rhywogaethau dofednod eraill.

Gall y math hwn o'r clefyd fod yn ffyrnig iawn mewn adar. Nid oes unrhyw achosion wedi'u cofnodi mewn unrhyw fan yn y byd lle mae wedi achosi clefyd mewn pobl.

Cafwyd datganiad ym mis Medi 2017 i’r perwyl nad oedd unrhyw achosion o ffliw adar yn y DU, ac ni chafwyd unrhyw achosion o ffliw adar pathogenig iawn ers hynny. Fodd bynnag, dychwelodd math pathogenig isel o'r clefyd, H5N3, nad yw'n fygythiad i iechyd pobl, ym mis Rhagfyr 2019 a gweithredodd y Llywodraeth yn gyflym i fynd i’r afael ag ef. Gwnaeth y DU ddatganiad ym mis Mehefin 2020 i’r perwyl nad oedd ynddi unrhyw achosion o ffliw adar.

Mae'r Llywodraeth yn parhau i fonitro ar gyfer ffliw adar ac mae'n gweithio gyda'r diwydiannau dofednod ac adar hela; a rhanddeiliaid sy’n gweithio ym maes ailgartrefu ieir a chyda bridiau dofednod pur a thraddodiadol, i helpu i leihau'r risg o’r clefyd.