English icon English

Safleoedd cyntaf wedi’u cyhoeddi ar gyfer y Fforest Genedlaethol – “Ymhlith y coetiroedd gorau yng Nghymru”

First sites announced for National Forest – “Among very best woodland in Wales”

  • Bydd yr 14 safle newydd yn gosod y safon ar gyfer Fforest Genedlaethol Cymru
  • Brandio y Fforest Genedlaethol yn cael ei ddatgelu hefyd
  • Grantiau yn cael eu cyhoeddi ar gyfer cynlluniau Coetiroedd Cymuedol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
  • Prosiect wedi’i gefnogi gan y darllewdwr bywyd gwyllt Iolo Williams

Mae lleoliadau ledled Cymru wedi eu clustnodi fel “safleoedd enghreifftiol” ar gyfer y Fforest Genedlaethol – rhwydwaith cysylltiedig o goedwigoedd fydd yn datblygu ledled Cymru.   

Wedi’i gyhoeddi yn y gwanwyn, bydd y Fforest Genedlaethol yn brosiect hidrymor yn ymdebygu i raddfa ac uchelgais Llwybr Arfordir Cymru, gan gysylltu rhwydwaith o goetiroedd ledled Cymru. 

Yn ogystal â gwella y coetiroedd presennol i fodloni safon y Fforest Genedlaethol, bydd cynlluniau yn gweld mwy o goed yn cael eu plannu gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â phartneriaid megis cymunedau, ffermwyr, coedwigwyr a chyrff cyhoeddus. 

Yn ogystal â chynnig lleoliadau ar gyfer hamdden a natur, bydd coetiroedd newydd fydd yn cael eu rheoli a’u creu ar gyfer y Fforest Genedlaethol hefyd yn dal ac yn storio carbon – a bydd y pren yn adnodd cynaliadwy ar gyfer adeiladu. 

Mae’r 14 o safleoedd newydd a gyhoeddir heddiw yn rhan o ystad Llywodraeth Cymru, ac yn cael eu rheoli a’u cynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Mae nod brand y Fforest Genedlaethol hefyd wedi ei ddatgelu, gyda’r logo a deunyddiau eraill yn cael eu datgelu heddiw. 

Daw y cyhoeddiad fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru, pan fydd cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn trafod y llwybr at COP26 – Cynhadledd Newid Hinsawdd y CU yn Glasgow y flwyddyn nesaf – a chyllideb carbon gyntaf Cymru. 

Y flwyddyn nesaf, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cydweithio gyda phartneriaid i drafod nodweddion coetiroedd newydd a choetiroedd presennol a’r manteision y gallent eu rhoi cyn y gallant fod yn rhan o’r Fforest Genedlaethol – gyda seilwaith a chysylltedd da gan gynnwys llwybrau ceffylau, llwybrau cerdded a llwybrau mynediad.  

Byddai’r Fforest Genedlaethol hefyd yn creu coetiroedd cysylltiedig ar hyd a lled Cymru. 

Ar yr un pryd â sefydlu Fforest Genedlaethol, yn gynharach eleni, gwelsom Lywodraeth Cymru yn lansio cyfnod newydd y cynllun Creu Coetiroedd Glastir, gyda chynnydd o bedair gwaith yn y gyllideb i £8 miliwn. 

Derbyniodd y cynllun dros 350 o ddatganiadau o ddiddordeb gan bobl sydd am blannu coetiroedd newydd yng Nghymru, ac mae contractau wedi’u cynnig bellach i’r  ymgeiswyr llwyddiannus. 

Bydd cyfnod pellach gwerth £9 miliwn i’r cynllun hefyd yn agor y mis hwn, gan arwain at greu gwerth dros £17 miliwn o goetiroedd eleni  – y dyraniad mwyaf o’i fath ers datganoli, ac yn fwy nag wyth cyfnod cyntaf y cynllun Creu Coetiroedd Glastir gyda’i gilydd. 

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Dwi wrth fy modd yn cyhoeddi’r safleoedd cyntaf un fydd yn rhan o’n Fforest Genedlaethol.   

“Maent ymhlith y coetiroedd gorau un yng Nghymru, a byddant yn enghreifftiau o’r manteision y byddem yn eu disgwyl o safleoedd eraill a choetiroedd newydd cyn y gallent ddod yn rhan o’r Fforest Genedlaethol. 

Ychwanegodd y Gweinidog:  “Dwi’n falch iawn y byddwn hefyd yn datgelu y brand ar gyfer y Fforest Genedlaethol – mae’n dangos y brwdfrydedd sydd ar gyfer y prosiect hwn, ac mae’r logo a ddewiswyd yn dangos safbwyntiau pobl ledled Cymru. 

“Rydyn ni’n awyddus i adeiladu ar y brwdfrydedd, y cydweithio a’r teimlad hwnnw o berchnogaeth ar y cyd wrth inni gynnwys nid yn unig fforestydd presennol y Fforest Genedlaethol, ond hefyd yn mynd ymlaen i greu ehangderau newydd o goetiroedd.” 

Mae Iolo Williams, y darlledwr natur a bywyd gwyllt hefyd wedi recordio fideo byr i nodi cyhoeddiad y Fforest Genedlaethol, gan ddangos ei gefnogaeth. 

Meddai Iolo:  “Dwi’n falch iawn o gefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Fforest Genedlaethol, fydd yn cysylltu ein coetiroedd hynafol a newydd ac yn dathlu Cymru fel tir wedi’i chyfoethogi gan ein coetiroedd a’n treftadaeth naturiol. 

“Drwy’r Fforest Genedlaethol gallwn adfer, gwella a chreu coetiroedd a chynefinoedd cysylltiedig ledled Cymru, gyda’r rhywogaethau iawn o goed yn cael eu planu yn y lleoedd iawn.  Bydd hefyd yn ysbrydoli llesiant drwy greu cariad tuag at yr awyr agored yng nghenedlaethau’r dyfodol, a sefydlu triweddau a chynefinoedd cryf, cynaliadwy, wedi’u sefydlu’n gadarn, er mwyn gwarchod ein gwlad mewn nifer o ffyrdd rhag effaith yr argyfwng hinsawdd. 

“Dyma fydd ein Fforest Genedlaethol – hoffwn annog pawb sydd â diddordeb i fod yn rhan o greu hyn wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.” 

Yr hyn a gyhoeddwyd heddiw hefyd oedd y prosiect cyntaf i gael ei gefnogi gan y rhaglen Coetiroedd Cymunedol – menter ledled Cymru sy’n cael ei rhedeg ar y cyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. 

Bydd Coetir Craig Gwladus, yng Nghastell-nedd, yn derbyn £125,000 o grant drwy raglen Coetiroedd Cymunedol – fel rhan o becyn grant mwy gwerth £155,000 gyda rhagor o gymorth gan Gyfoeth Naturiol Cymru.   

Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Fu hi erioed mor bwysig i edrych ar ôl natur, i helpu i’w hadfer a helpu pobl i ddeall pa mor bwysig ydyw.  Dyna pam y mae cyllido tirweddau a natur yn un o brif flaenoriaethau cyllido Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru. 

“Fel rhan o’r ymrwymiad hwn ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, lansiwyd y rhaglen ‘Coetiroedd Cymunedol’ – cynllun grant cyfalaf sy’n cynnig cyllid o rhwng £10,000 a £250,000 i adfer, creu, cysylltu a rheoli coetiroedd yng Nghymru.   

“Bydd prosiectau sy’n cael eu hariannu gan y cynllun grant hwn hefyd yn helpu i lywio syniadau Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad hirdymor a chadernid Fforest Genedlaethol Cymru – y rhwydwaith ecolegol cenedlaethol sy’n gwarchod natur ac yn mynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth.”