English icon English
Summer Sorted programme-2

Rhaglen sgiliau hanfodol Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanci gyrraedd eu potensial

Welsh Government’s ‘Summer Sorted’ programme helping young people reach their potential

Mae rhaglen Haf Hwylus Llywodraeth Cymru wedi helpu cannoedd o bobl ifanc ledled Cymru i gyrraedd eu potensial a gwella eu cyflogadwyedd a’u sgiliau hanfodol, meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru. 

Mae’r rhaglen, sy’n cael ei chynnal dros gyfnod gwyliau haf ysgolion pob blwyddyn, wedi ei hanelu at bobl ifanc sydd wedi cwblhau Blwyddyn 11 yn ddiweddar ond sydd angen rhagor o gymorth i helpu iddynt bontio i addysg bellach, hyfforddiant neu waith. 

Oherwydd cyfyngaidau pellter cymdeithasol yr haf hwn o ganlyniad i’r coronafeirws, rhoddwyd y cyfle i ddysgwyr gymryd rhan mewn rhaglen o ddysgu ar-lein/o bell o dan arweiniad hyfforddwyr.

Roedd hyn yn gyfle i nifer ohonynt wella eu galluoedd technoleg digidol a chyfathrebu ar-lein, yn ogystal â chanolbwyntio ar wella eu sgiliau allweddol a darparu gwybodaeth am gymorth ar gyfer iechyd a llesiant. 

Gwnaethpwyd hyn drwy gyfuniad o weithgareddau grŵp ar-lein a chymorth unigol eleni, gyda bron 550 o ddysgwyr yn cymryd rhan.  Cafodd nifer ohonynt leoedd mewn colegau neu leoliadau hyfforddi ym mis Medi wedi gwela eu canlyniadau’n sylweddol diolch i’r rhaglen. 

Ble nad oedd yn bosibl i ddysgwyr ddysgu ar-lein, anfonwyd deunydd yn y post a chafwyd rhagor o gymorth dros y ffôn. 

Mae cyfranogwyr rhaglen eleni wedi cymeradwyo hyblygrwydd yr opsiynau dysgu oedd ar gael iddynt. 

Dywedodd un ohonynt: “Roedd yn brofiad gwych.  Roeddwn wrth fy modd yn ei wneud, ac wedi dysgu nifer o sgiliau newydd a sut i weithio ar wahanol bethau nad wyf yn dda yn eu gwneud.  Hoffwn ddiolch ichi am roi’r profiad hwn imi, dwi’n ei werthfawrogi’n fawr.” 

Ychwanegodd un arall: “Bu fy mentor mor gefnogol ac amyneddgar.  Dwi’n credu y bydd o gymorth mawr pan fyddaf yn dechrau coleg ym mis Medi.” 

Meddai Rob Peebles, tiwtor sgiliau hanfodol ACT Training – un o ddarparwyr y fenter Haf Hwylus – am raglen eleni: “Mae’r offer a’r adnoddau digidol yr ydy ni wedi eu defnyddio yn gwneud dysgu o bell yn llawer mwy effeithiol ac mae’r dysgwyr yn ei fwynhau.  Mae dysgu o bell yn newydd inni i gyd ond dwi’n credu ein bod yn addasu’n wych ac wedi derbyn adborth gwych gan rai dysgwyr.” 

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o gefnogi pobl ledled Cymru a helpu iddynt gyrraedd eu potensial.   

“Roedd eleni yn un o’r blynyddoedd anoddaf erioed o ganlyniad i’r pandemig, gan roi pwysau di-gynsail ar ein heconomi.  Ond mae hefyd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gweithlu sydd â’r sgiliau i fynd i’r afael â heriau ac sy’n barod ar gyfer cyfleoedd yfory. 

“Mae rhaglenni fel Haf Hwylus yn hollbwysig i helpu inni sicrhau bod economi Cymru yn barod ar gyfer y dyfodol i greu gweithlu sydd hyd yn oed yn fwy cadarn a dawnus.”