English icon English
TRB Site (002)

Y Gronfa Cadernid Economaidd yn cefnogi Gweithgynhyrchwr Modurol yn Llanelwy

Economic Resilience Fund supports St Asaph Automotive Manufacturer

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd wedi cefnogi cwmni sy’n gweithgynhyrchu darnau modurol yn Llanelwy, gan ei alluogi i gadw ei weithlu a pharhau i weithredu.

Mae TRB Limited, sy’n is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr y cwmni Tokai Rika o Japan, ar flaen y gad yn gweithgynhyrchu switshys modurol a ddefnyddir mewn cylchedau trydanol cerbydau. Maent yn rheoli mecanweithiau megis gwres, aerdymheru a ffenestri.

Mae TRB yn cyflogi 135 o bobl ac wedi wynebu heriau dros yr ychydig fisoedd diwethaf wrth i’r pandemig effeithio ar ei gadwyn gyflenwi. Mae wedi derbyn £128,500 o’r Gronfa Cadernid Economaidd gan ei helpu i barhau i weithredu dros y tymor hir a chadw ei weithlu.

Mae’r Gronfa sy’n rhan o becyn cymorth gwerth £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yn darparu cymorth ariannol sylweddol i filoedd o gwmnïau ar draws Cymru. Mae’n ategu’r help a ddarperir gan Lywodraeth y DU. 

Hyd yn hyn, mae mwy na 13,000 o fusnesau wedi cael cymorth ariannol o bron i £300 miliwn ac mae’r Gronfa wedi helpu i ddiogelu mwy na 100,000 o swyddi.

Dywedodd Phil Riley, y Dirprwy Reolwr Cyffredinol yn TRB: “Mae’n sicr wedi bod yn gyfnod heriol i TRB Ltd. Rydym yn parhau i lywio ein ffordd drwy’r ansicrwydd y mae busnesau yn ei wynebu yn sgil pandemig y coronafeirws, a’r effaith y mae’n ei chael ar ein cadwyni cyflenwi.

“Er gwaethaf y cyfyngiadau symud a’r gostyngiad dramatig mewn gwerthiannau, roedd yn hanfodol i TRB barhau i reoli’r amseroedd aros hir am fewnforion ac allforion. Roedd y cymorth a gawsom gan Lywodraeth Cymru wedi ein helpu i oresgyn yr anawsterau a achoswyd gan y coronafeirws. Gwnaeth hyn ein galluogi i gadw ein gweithlu gwerthfawr ac ymroddedig.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae’r coronafeirws wedi cyflwyno heriau enfawr i fusnesau ar draws Cymru. Rydym wedi ymateb drwy geisio diogelu cwmnïau, swyddi a bywoliaeth pobl drwy becyn o gymorth gwerth £1.7 biliwn na welwyd ei debyg o’r blaen ac sy’n cael ei ddarparu’n gyflym.

 “Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn rhan allweddol o hynny ac yn gwbl hanfodol i gefnogi miloedd o fusnesau ar draws Cymru wrth iddynt ymdopi ag effeithiau economaidd y pandemig.

 “Rwy’n falch bod y gronfa yn cefnogi TRB Ltd, gan ei helpu i gadw ei weithlu yn ystod yr adeg anodd hon. 

 “Wrth i’r heriau barhau, byddwn yn dyblu trydydd cyfnod ein Cronfa Cadernid Economaidd, gan sicrhau bod bron £300miliwn ar gael i fusnesau. Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i helpu busnesau yng Nghymru drwy’r cyfnod hynod o anodd hwn.”