English icon English
WG positive 40mm-3

Y Gweinidog yn cadarnhau ail-benodiadau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Minister confirms re-appointments to the Independent Remuneration Panel for Wales

Heddiw, mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi bod Sarah (Saz) Willey wedi'i hailbenodi'n Aelod i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

A hithau wedi’i phenodi yn wreiddiol i'r Panel ym mis Mehefin 2016, bydd Sarah (Saz) Willey yn cael ei hailbenodi'n aelod o'r panel am bedair blynedd a thri mis o 1 Ionawr 2021.

Mae'r Panel yn gyfrifol am bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau etholedig cynghorau, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

Telir cyfradd ddyddiol o £282 i aelodau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sy'n adlewyrchu ymrwymiad amser gofynnol o 12 diwrnod y flwyddyn.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Rwy’n falch o  gyhoeddi'r ail-benodiad hwn heddiw a bod Saz wedi cytuno i barhau yn ei rôl ar y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol.”

 “Bydd yr arbenigedd a'r sgiliau y mae Saz wedi'u datblygu wrth ymgymryd â'r rôl hon o fudd i'r Panel wrth iddo barhau â'i waith”.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Sefydlwyd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o dan ddarpariaethau Rhan 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Gwnaed yr ail-benodiad hwn yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd ar Benodiadau Gweinidogol.

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae rhan yn y broses ddethol.  Er hynny, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae'n ofynnol cyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol y rhai a benodir (os oes rhai wedi'u datgan).

Bywgraffiad

A hithau wedi’i geni yng Nghymru, enillodd Saz radd economeg yng Nghymru a gweithio fel archwilydd cyn symud i Baris. Ar ôl dychwelyd i Gymru, daeth yn wirfoddolwr gweithgar, yn ofalwr ac fe wnaeth ailhyfforddi yn y gyfraith.  Bu'n gweithio fel rheolwr CAB tan 2013 gan reoli contractau Cymorth Cyfreithiol a chontractau Llywodraeth Cymru, gan ddatblygu gwasanaethau newydd ac ymgyrchu i wella polisi ac ymarfer.

Saz yw Cadeirydd Gofal a Thrwsio Cymru ac mae'n aelod o Sefydliad Siartredig y  Gweithredwyr Cyfreithiol.

A hithau’n aelod anweithredol o POBL am bum mlynedd, roedd Saz yn is-gadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg y Grŵp ac yn ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth POBL. Bu hefyd yn aelod anweithredol ac yn aelod o bwyllgor archwilio Bwrdd Iechyd Lleol y Fro am chwe blynedd ac yn fentor PQASSO trwyddedig.