English icon English
WG LB logo

Addo pecyn cymorth i denantiaid wrth i Weinidog osod cap rhent cymdeithasol newydd i Gymru

Package of support promised for tenants as Minister sets new social rent cap for Wales

Heddiw (ddydd Mercher, 16 Tachwedd), mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cadarnhau'r cap ar gyfer rhenti cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ynghyd â phecyn cymorth i denantiaid.

Amlinellodd y Gweinidog gyfres o ymrwymiadau yr oedd hi wedi'u sicrhau gyda landlordiaid cymdeithasol, gan gynnwys ‘na fydd unrhyw droi allan oherwydd caledi ariannol ar gyfer cyfnod y setliad rhent yn 2023-24’ lle mae tenantiaid yn trafod â'u landlordiaid.

Esboniodd y Gweinidog hefyd y penderfyniadau y tu ôl i osod y cap rhent cymdeithasol ar 6.5%.

 “Rwyf wedi bod yn glir na fydd unrhyw denant cymdeithasol yn profi unrhyw newid yn eu rhent tan fis Ebrill 2023. Fodd bynnag, mae angen i mi osod y rhenti ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf nawr i roi amser i'r sector gynllunio,” meddai'r Gweinidog.

“O fis Ebrill 2023, bydd y terfyn uchaf y gall rhenti cymdeithasol godi yn 6.5% - cynnydd sy'n llawer is na chyfradd chwyddiant. Dyma'r uchafswm y gall unrhyw landlord ei godi ar draws eu holl eiddo. 

“Nid yw’n ofynnol i unrhyw landlord godi’r uchafswm, ac rwy'n gwybod y bydd pob landlord yn ystyried fforddiadwyedd yn ofalus ac yn gosod rhenti yn ôl yr hyn sy’n briodol ar draws eu stoc dai.

“O fewn y setliad cyffredinol, gall landlordiaid rewi, gostwng neu godi rhenti unigol yn seiliedig ar nifer o ffactorau lleol y mae fforddiadwyedd yn ystyriaeth allweddol iddynt. Mae'r gyfradd yn uchafswm, ac nid yw'n ofyniad nac yn darged.

“Rydym yn gwybod y gall unrhyw gynnydd mewn rhent cymdeithasol effeithio ar y tenantiaid cymdeithasol hynny sy'n talu’r holl rent neu ran o'u rhent eu hunain. Mae angen gwarchod y tenantiaid hyn, yn enwedig, rhag cael eu rhoi mewn sefyllfa o galedi ariannol drwy geisio talu costau cadw to dros eu pennau. 

“Bydd ein cytundeb gyda'n landlordiaid cymdeithasol yn helpu i wneud hynny, gan ddiogelu a gwella'r ddarpariaeth o dai o ansawdd da a gwasanaethau cymorth hanfodol i denantiaid.

“Yn olaf, mae ein cytundeb gyda landlordiaid cymdeithasol yn adeiladu ar drafodaethau sy'n bodoli eisoes â thenantiaid o ran penderfyniadau sy'n ymwneud â gosod rhent. Mae hynny’n cynnwys egluro sut mae incwm o rent yn cael ei fuddsoddi a'i wario. 

“Gan weithio mewn partneriaeth â thenantiaid, bydd Llywodraeth Cymru, cyllidwyr a phartneriaid eraill yn datblygu dull cyson o asesu fforddiadwyedd ar draws y sector tai cymdeithasol yng Nghymru. 

“Hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau a roddodd dystiolaeth i'm swyddogion, i'n helpu ni i lunio’r  cytundeb hwn.”

Yng Nghymru, mae oddeutu tri chwarter o denantiaid cymdeithasol yn cael eu holl rent neu ran o'u rhenti wedi’u talu gan fudd-daliadau. Felly, i lawer o denantiaid bydd unrhyw gynnydd mewn rhent yn dod o fudd-daliadau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu talu.

Bydd ymgyrch ar y cyd, er mwyn annog tenantiaid i siarad â'u landlord os ydynt yn wynebu trafferthion ariannol a chael gafael ar y cymorth sydd ar gael, yn cael ei lansio ledled Cymru y flwyddyn nesaf.