Skip to main content

Pupils’ artwork makes an impact at Holyhead Railway Station

03 Tach 2022

Mae gwaith celf a ddyluniwyd ac a grëwyd gan ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Caergybi wedi creu cryn argraff yng Ngorsaf Reilffordd Caergybi.

Yn sgil prosiect gwaith celf yr orsaf, a drefnwyd gan Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru (CRP) a Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) ac a ariannwyd gan Trafnidiaeth Cymru ac Avanti West Coast, bu disgyblion Blwyddyn 10 yn dylunio ac yn creu pum darn o gelf.  Roedd tri ohonynt yn furluniau graffiti sydd bellach i’w gweld yng Ngorsaf Reilffordd Caergybi.

Bu’r artist graffiti Andy Birch, Dime One North Wales Graffiti Art Murals, yn helpu'r pobl ifanc i ddylunio gwaith celf a oedd yn cyfleu negeseuon allweddol ynghylch diogelwch rheilffyrdd a diogelwch yn y dŵr yn ogystal â hybu iechyd meddwl a thwristiaeth yng Nghaergybi.

Roedd y prosiect hefyd yn helpu i chwalu'r rhwystrau presennol a meithrin cysylltiadau rhwng pobl ifanc a BTP a oedd yn bresennol yn y sesiynau creadigol i egluro pwysigrwydd diogelwch mewn gorsafoedd.

Dywedodd Alison Barker, PCSO BTP: “Mae wedi bod yn bleser o'r mwyaf cael gweithio gyda PAD Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru a myfyrwyr Ysgol Uwchradd Caergybi ar y prosiect hwn.  Fel PCSO sy'n gweithio i BTP, mae cael cyfle i ddod i adnabod ac ymgysylltu â'n cymuned leol yn werth chweil.  Mae'r gwaith celf yn anhygoel ac yn glod i bawb a fu'n rhan o'r prosiect.  Fe wnaethon ni fwynhau gweithio yn y dosbarth gyda’r myfyrwyr yn arbennig, dod i’w hadnabod a chwalu rhwystrau a all weithiau fod yn rhwystr rhwng pobl ifanc a’r heddlu.”

Dywedodd y Gweithiwr Ieuenctid Sharon Bibby: “Mae wedi bod yn bleser pur gweithio ar y prosiect hwn.  Mae’r disgyblion wedi cael profiad anhygoel gydag Andy a’r paent chwistrellu.  Mae sgiliau newydd wedi'u dysgu tra’n cael hwyl a dysgu cymhwyster newydd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld ein celf yn cael ei arddangos yn yr orsaf.”

Bu ugain o ddisgyblion yn rhan o’r prosiect ysbrydoledig hwn, a bydd pob un yn ennill cymhwyster am eu gwaith fel rhan o’u modiwl Prosiect Cymunedol Ymddiriedolaeth y Tywysog.  Cyrhaeddodd y prosiect restr fer Gwobr Rheilffyrdd Cymunedol eleni yn y categori Cynnwys Plant a Phobl Ifanc.

Dywedodd Melanie Lawton, Rheolwr Rheilffyrdd Cymunedol TrC: “Mae gwaith celf yr orsaf yn rhoi ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth i’r disgyblion a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.  Llongyfarchiadau i’r disgyblion a’r timau cymunedol am ymgysylltu mor cadarnhaol.  Mae'n wych gweld y canlyniadau terfynol - maen nhw wedi bywiogi’r orsaf i deithwyr a staff.”

Llwytho i Lawr