English icon English

Ymgynghoriad wedi’i lansio i orfodi Teledu Cylch Cyfyng mewn lladd-dai

Consultation launched on mandatory CCTV in slaughterhouses

Heddiw [dydd Llun, 14 Tachwedd], mae ymgynghoriad yn dechrau ar gynigion i’w gwneud yn orfodol i osod teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yng Nghymru.

Mae hwn yn ymrwymiad sydd yn y Rhaglen Lywodraethu a’n Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru, sy'n ceisio cynnal a gwella safonau lles i bob anifail sy'n cael ei gadw.

Mae gan y rhan fwyaf o ladd-dai yng Nghymru deledu cylch cyfyng yn barod. Byddai’r gofyniad hwn yn sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ym mhob lladd-dy, a fydd yn helpu i roi hyder i ddefnyddwyr bod safonau lles yn cael eu bodloni.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a'n huchelgais yw i bob anifail sy'n cael ei ffermio gael ansawdd bywyd da ac i fod yn rhydd o ddioddefaint. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob lladd-dy yng Nghymru deledu cylch cyfyng, ac rwy'n falch o gyhoeddi'r ymgynghoriad heddiw.

"Tra bo gan y mwyafrif llethol o ladd-dai deledu cylch cyfyng yng Nghymru, rwyf am sicrhau bod pob anifail yn cael yr un lefel o ddiogelwch."

Bydd yr ymgynghoriad yn para 12 wythnos ac mae ar gael i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru

https://llyw.cymru/teledu-cylch-cyfyng-mewn-lladd-dai