English icon English
WG positive 40mm-3

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru

Welsh Government response to latest NHS Wales performance data

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae ein GIG yn parhau i wynebu galw digynsail ac mae'n gweld miloedd o bobl bob dydd. Mewn ysbytai yn unig, cynhaliwyd dros 361,000 o ymgynghoriadau ym mis Medi.

Caewyd dros 99,000 o lwybrau cleifion ym mis Medi, sydd yn ôl i’r lefel cyn y pandemig a 6% yn uwch nag ym mis Awst a chafodd mwy o gleifion nag erioed (13,856) wybod nad oedd canser arnynt ym mis Medi.

Mae cynnydd yn parhau o ran yr amseroedd aros hiraf. Mae nifer y llwybrau cleifion* sy’n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth wedi gostwng am y chweched mis yn olynol, ac i lawr 19 y cant ers y brig ym mis Mawrth. Mae’r nifer sy’n aros mwy na 36 wythnos hefyd wedi gostwng ym mis Medi, 3% yn llai nag ym mis Awst.

Mae staff gofal sylfaenol, ambiwlans ac adrannau brys yn parhau i fod o dan bwysau dwys. Fel enghraifft, mis Hydref gwelwyd y nifer uchaf a'r gyfran uchaf o alwadau 'coch'/ ar unwaith sy'n bygwth bywyd ar gof a chadw.

Arwydd pellach o gymhlethdod anghenion cleifion yw nifer y cleifion sydd yn cael eu derbyn i'r un ysbyty neu ysbyty gwahanol ar ôl mynychu adran frys fawr, a oedd 27.1% yn uwch na Medi 2022. 

Er ein bod ni’n cydnabod nad yw perfformiad ambiwlansiau gystal ag yr ydyn ni, yn disgwyl iddo fod, rydym yn arwain gwelliant gan gynnwys ymestyn gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod i fod ar gael saith diwrnod, rheoli galwadau i osgoi derbyn pobl i’r ysbyty a recriwtio staff ychwanegol. Heb yr ymyriadau hyn byddai’r pwysau ar y system yn fwy fyth.”

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau

* Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl amryw o lwybrau ar agor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli newydd yn awgrymu fod bron i 755,000 o lwybrau cleifion ar agor ym mis Medi 2022, ac roedd oddeutu 590,000 o gleifion unigol ar y rhestrau aros am driniaeth yng Nghymru. Roedd hyn yn gynnydd o tua 2,100 o gleifion ers y mis blaenorol.