English icon English

Gweinidog yn cwrdd â staff newydd ac yn gweld cynnydd ar brosiect dementia newydd mewn cartref gofal yn Llambed

Minister meets new staff and sees progress on new dementia project at Lampeter care home

Mae gardd synhwyraidd, pedair ystafell wely newydd ac ardal les newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghartref Gofal Hafan Deg yn Llanbedr Pont Steffan i wella gofal i breswylwyr â dementia, diolch i fuddsoddiad o £460,000 gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod ei hymweliad â’r cartref gofal ddydd Iau (10 Tachwedd) bu’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, hefyd yn cyfarfod â rhai o’r aelodau newydd o staff ac amlinellodd ymdrechion Llywodraeth Cymru i recriwtio mwy o weithwyr gofal cymdeithasol.

Dywedodd: “Rwy’n falch o weld gwaith yn dechrau ar y prosiect pwysig hwn a fydd yn gwella profiad preswylwyr a’u teuluoedd yn fawr. Yn unol â’n Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia yng Nghymru, mae hwn yn fuddsoddiad mewn dulliau newydd o ddarparu gofal a chymorth i bobl â dementia.

Mae’r prosiect hwn yn enghraifft dda o gydweithio rhwng y bwrdd iechyd a’r awdurdod lleol i wella gwasanaethau.”

Bu’r Dirprwy Weinidog hefyd yn cyfarfod ag aelodau newydd o staff yn Hafan Deg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £43 miliwn i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael isafswm cyflog o £9.90.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar ymgyrch recriwtio helaeth, ‘Gofalwn.Cymru’, i hyrwyddo gyrfaoedd yn y sector gofal cymdeithasol. Mae’r wefan, Gofalwn.Cymru, wedi’i sefydlu i alluogi cyflogwyr gofal cymdeithasol i hysbysebu swyddi yn y sector am ddim, gan ei gwneud yn haws recriwtio ac i staff newydd ddod o hyd i swydd.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Gofal Cymdeithasol Cymru i ddarparu cwrs Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol sy’n para tridiau ac sydd ar gael am ddim, gan ganolbwyntio ar bynciau fel cyfathrebu, diogelu ac arferion gweithio.

Mae prentisiaethau hefyd ar gael yn y sector gofal cymdeithasol, gan gynnig modd o gael hyfforddiant a datblygu sgiliau a chymwysterau newydd tra’n gweithio a dysgu.

Dywedodd Ms Morgan: “Mae ein gweithwyr gofal yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl yng Nghymru, yn edrych ar ôl llawer ohonom a’n hanwyliaid, gan ddarparu gofal arbenigol i bobl o bob oed ag ystod eang o anghenion.

Rydym yn buddsoddi yn y sector gofal cymdeithasol i sicrhau tâl teg ac i wella arferion gweithio a chynnydd gyrfaoedd i wneud y proffesiwn yn lle gwell i weithio.”

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion sydd â chyfrifoldeb dros y Strategaeth Gydol Oed a Llesiant, “Mae’n wych gweld y cyfle cyffrous hwn yn cael ei ddatblygu yng Ngheredigion, gan ddatblygu gwasanaethau a fydd yn addas i’r dyfodol drwy gefnogi pobl â dementia yn eu cymuned leol.

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i barhau i recriwtio staff gofal cymdeithasol o safon ac i greu cyfleoedd drwy brentisiaethau a rhaglenni hyfforddi, ac wrth wneud hynny creu gweithlu ar gyfer y dyfodol.”