Skip to main content

First electrified rail lines installed

10 Tach 2022

Mae’r llinellau trydan cyntaf a fydd yn pweru Metro newydd De Cymru wedi’u gosod gan Trafnidiaeth Cymru ar Reilffyrdd Craidd y Cymoedd yn Ne Cymru.

Mae hon yn garreg filltir fawr arall yn y gwaith o gyflawni’r prosiect Metro a fydd yn trawsnewid teithio i bobl De Cymru gan ddarparu trafnidiaeth gyflymach, amlach a gwyrddach.

Gyda’r llinellau trydan cyntaf yn cael eu gosod dros yr wythnosau nesaf, hoffai Trafnidiaeth Cymru dynnu sylw’r cyhoedd at beryglon tresmasu ar y rheilffordd. Mae tresmasu ar y rheilffordd yn ddi-hid, yn anghyfreithlon ac yn beryglus, a gallai'r rhai sy'n cael eu dal wynebu dirwy o £1000.

Gyda gwaith trydaneiddio yn mynd rhagddo dros y misoedd nesaf, mae Trafnidiaeth Cymru yn annog y cyhoedd i ufuddhau i reolau tresmasu ac i gadw’n glir o unrhyw linellau trydan.

Bydd yr Offer Llinell Uwchben (OLE) yn cynnwys pyst metel a gwifrau a bydd i'w weld ar hyd y trac rheilffordd yn y cymoedd. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gosod OLE ar 170km o drac ar draws Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd (Treherbert, Aberdâr, Merthyr, Rhymni, Coryton, y Bae a Llinellau’r Ddinas) a bydd y pyst dur yn cael eu gosod ar sylfeini sydd rhwng 20 a 65 metr rhyngddynt ar hyd y trac cyfan.

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd TrC: “Mae gosod y llinellau trydan cyntaf yn gam mawr ymlaen i ni yn Trafnidiaeth Cymru ac unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y rhaglen waith hon yn darparu trafnidiaeth wyrddach ar gyfer y dyfodol.

“Fodd bynnag, mae’n hanfodol ein bod yn tynnu sylw at y ffaith bod gwaith trydaneiddio bellach ar y gweill ac felly rhaid i’r cyhoedd ddeall y risgiau a’r peryglon. Fel bob amser, mae tresmasu ar y rheilffordd yn beryglus ac mae’n bwysig bod pobl yn ufuddhau i’r rheolau fel ag y maent er eu diogelwch eu hunain.”

Dywedodd Rhingyll Tomos Van Praet o Heddlu Trafnidiaeth Prydain: “Fel swyddogion heddlu, rydyn ni’n gweld – yn rhy aml o lawer – effaith ddinistriol pobol yn tresmasu ar draciau rheilffordd.

“Gyda’r llinellau trydan newydd yn cael eu gosod, mae’n arbennig o bwysig bod rhieni’n siarad â’u plant am beryglon y rheilffordd.

“Nid maes chwarae yw’r rheilffordd. Bob tro mae rhywun yn camu ar y trac maen nhw'n rhoi eu hunain mewn perygl o anaf difrifol sy'n newid bywyd.

“Rhowch wybod i ni bob amser am unrhyw bryderon neu ddigwyddiadau drwy anfon neges destun at 61016.”

Bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd yn sylweddol ledled De Cymru ac yn darparu mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru, drwy uno llwybrau rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.