English icon English

Galw am fwy o gyllid ar gyfer cyflogau’r GIG

Call for more funding for NHS pay

Llythyr ar y cyd at Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael ei hannog i gynyddu’r cyllid sydd ar gael ar gyfer cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd.

Galw am fwy o gyllid ar gyfer cyflogau’r GIG

Llythyr ar y cyd at Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael ei hannog i gynyddu’r cyllid sydd ar gael ar gyfer cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd.

Cyn Datganiad yr Hydref, mae Ysgrifennydd Iechyd yr Alban, Humza Yousaf, a Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Iechyd y DU, Steve Barclay, i ofyn am ragor o gyllid i helpu i osgoi gweithredu diwydiannol yn y GIG y gaeaf hwn.

Dywed y llythyr:

“Roeddem eisiau ysgrifennu atoch cyn Datganiad yr Hydref gan y Canghellor ar 17 Tachwedd i gyflwyno’r achos unwaith yn rhagor am gyllid ychwanegol ar gyfer staff gweithgar y GIG.

“Yn yr wythnosau diwethaf mae Dirprwy Brif Weinidog yr Alban a Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Drysorlys Ei Fawrhydi i nodi’n glir bod angen cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

“Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi cyhoeddi mandad cyfreithiol ar gyfer gweithredu diwydiannol ar draws y DU. Yn yr Alban, maent wedi ymuno â sawl undeb arall sy’n cynrychioli staff y GIG i sicrhau mandad cyfreithiol ar gyfer gweithredu diwydiannol a disgwylir y bydd pleidleisiau’n cadarnhau mandad yng ngweddill y DU.

“Mae’r risg i’r GIG yn sgil gweithredu diwydiannol y gaeaf hwn yn ddifrifol, ac mae angen inni wneud popeth a allwn i osgoi gweithredu diwydiannol o unrhyw fath. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn parhau i deimlo effaith y pandemig ar draws y DU wrth iddo adfer wedi’r cyfnod hwn, ac mae’n debygol y bydd unrhyw weithredu yn cael effaith drychinebus ym mhob rhan o’r DU.    

“Rydym yn wynebu argyfwng costau byw, ac mae dicter staff y GIG yn gwbl ddealladwy. Mae cynnydd aruthrol mewn chwyddiant a chyfraddau llog uchel, sy’n ganlyniad uniongyrchol i’r anhrefn a achoswyd gan fini-gyllideb Llywodraeth y DU, yn golygu na allwn ni ddod yn agos at fodloni disgwyliadau staff y GIG ar hyd a lled y wlad. Er ein bod yn croesawu’r cymorth a roddwyd gan Lywodraeth y DU mewn rhai meysydd fel biliau ynni, nid yw wedi mynd hanner digon pell.

“Mae adroddiadau yn y cyfryngau yn awgrymu bod y Canghellor yn ystyried ailgyflwyno mesurau cyni yn y DU unwaith eto drwy wneud toriadau helaeth i wariant. Does dim mandad ar gyfer hyn. Byddai hyn yn drychineb ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, ar adeg pan mae angen mwy, nid llai, o fuddsoddiad.

“Rydym felly’n erfyn arnoch i weithio gyda ni i gyflwyno’r achos i’r Canghellor, cyn ei Ddatganiad yr Hydref, am fwy o gyllid i’r GIG a’r llywodraethau datganoledig yn gyffredinol. A hynny’n bennaf er mwyn rhoi codiad cyflog teg i staff gweithgar ein GIG yn wyneb yr argyfwng costau byw y gaeaf hwn, ac i osgoi gweithredu diwydiannol a allai fod yn drychinebus i'r GIG.”

Nodiadau i olygyddion

Mae copi o'r llythyr llawn ar gael ar gais