Skip to main content

3 Counties Connected Community Rail Partnership welcomes the arrival of new community rail officer

02 Tach 2022

Mae Josie Rayworth, swyddog rheilffordd gymunedol newydd, yn barod i ddechrau ar ei gwaith o gyflwyno gweithgareddau’r rheilffordd gymunedol mewn gorsafoedd a chymunedau ar hyd y rheilffordd rhwng Caer a Crewe fel rhan o Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig, menter ar y cyd rhwng Groundwork Gogledd Cymru, Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid yn y gymuned.

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol 3 Sir Gysylltiedig yn cael ei hariannu’n rhannol gan Trafnidiaeth Cymru er mwyn cyflwyno ei gweledigaeth ehangach ar gyfer rheilffyrdd cymunedol. Mae’r bartneriaeth yn cael ei harwain gan Groundwork Gogledd Cymru sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cymunedau, cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth.

Bydd y bartneriaeth yn datblygu ac yn hyrwyddo’r rheilffordd rhwng Caer, Amwythig a Crewe fel llinell werdd trwy ddarparu llawer o gyfleoedd i gymunedau gymryd rhan, cyfleusterau deniadol yn y gorsafoedd, cydlyniant gwych â mathau eraill o drafnidiaeth a gwasanaeth sy’n ateb anghenion pobl leol ac ymwelwyr, gan gynnig gwerth am arian i deithwyr.

Mae’r rheilffordd yn gyswllt trafnidiaeth hanfodol i’r cymunedau ar y gororau rhwng Cymru a Lloegr a bydd y bartneriaeth yn datblygu ac yn cynnal sawl menter werdd er mwyn annog twristiaeth gynaliadwy a hybu gweithgareddau awyr agored sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar hyd y rheilffordd. Bydd y bartneriaeth yn annog pobl o bob oedran i wirfoddoli; gan roi cymorth i grwpiau o ‘gyfeillion’, grwpiau ysgol ac ieuenctid i ofalu am orsafoedd a’u gwneud yn fwy gwyrdd ac yn fwy hygyrch.

Mae gan Josie, swyddog newydd Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol 3 Sir Gysylltiedig, dros ddegawd o brofiad o drefnu digwyddiadau a rhaglenni mawr ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Erddig a Chastell y Waun yng ngogledd Cymru. Mae hi wedi bod yn Diwtor Cymunedol ac yn artist llawrydd ac mae hi wedi cael ei chomisiynu i greu llwybrau a cherfluniau ar gyfer coetiroedd, parciau a thai hanesyddol ar draws y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Josie Rayworth, Swyddog y Rheilffordd Gymunedol, “Mae’n anrhydedd mawr cael swydd lle gallaf ddefnyddio fy sgiliau a’m gwybodaeth i ddod â’r budd gorau i’r bartneriaeth. 

Dyma fy 7fed wythnos yn y swydd ac rydw i wrth fy modd. O blannu bylbiau i gynllunio prosiectau celf, llwybrau, dosbarthiadau, a choed Nadolig. Diolch yn fawr iawn i bawb am y croeso cynnes. Dydw i ddim wedi cael cyfle i gyfarfod yr holl wirfoddolwyr a mudiadau eto ond rydw i’n edrych ymlaen yn eiddgar i glywed am eu gwaith gwych ac i ddod i adnabod pawb.”

Dywedodd Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru, Hugh Evans: “Rydym wrth ein bodd i groesawu Josie a Groundwork Gogledd Cymru i deulu’r Rheilffyrdd Cymunedol. Gall Rheilffyrdd Cymunedol ysgogi newid gwirioneddol er gwell ar draws ein rhwydwaith, gan wneud teithio ar drên yn fwy hygyrch, cynaliadwy a chynhwysol. Mae hyn yn dod â budd economaidd a chyfle i gefnogi iechyd a lles meddyliol y bobl yn y cymunedau hyn. Mae gan Josie lawer iawn o brofiad o weithio gyda chymunedau, ac rydw i’n edrych ymlaen i wella’r cysylltiad rhwng ein rheilffyrdd â chymunedau yn rhanbarth newydd y 3 Sir Gysylltiedig.”

Ar hyn o bryd mae Josie yn gweithio ar brofiad unigryw a fydd yn cael ei gynnal yn ystafell de, The Carriage Tearoom, yn Rheilffordd Llangollen – sef crefftau ar y cledrau. Gallwch ymlacio a mwynhau’r golygfeydd o’r afon wrth i chi roi cynnig ar rai o’r crefftau a oedd yn gysylltiedig â’r diwydiant gwlân ar hyd llwybr rheilffyrdd Llangollen ac Amwythig.

Comisiynwyd gwefan newydd www.3countiesconnected.org.uk a gall pobl gael y newyddion diweddaraf am y bartneriaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth, cysylltwch â Josie Rayworth ar 01978 757524 josie.rayworth@3countiesocnnected.org.uk