Skip to main content

Cardiff bay biodiversity improvements

03 Tach 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio’n agos gyda mabwysiadwyr gorsaf Clwb Rotari Bae Caerdydd i wneud gwelliannau yng ngorsaf reilffordd Bae Caerdydd.

Fel rhan o brosiect Llwybrau Gwyrdd Trafnidiaeth Cymru, mae gwelliannau amgylcheddol wedi cael eu gwneud i orsaf reilffordd Bae Caerdydd ynghyd â rhoi hwb i fioamrywiaeth yr ardal leol. Mae hyn yn cynnwys disodli llwyni presennol gyda potiau ar gyfer gwell bioamrywiaeth a pheillwyr, yn ogystal â plannu phlanhigion synhwyraidd i gynyddu lles teithwyr.

Dywedodd Dr Louise Moon, rheolwr rhaglen datblygu cynaliadwy Trafnidiaeth Cymru: “Mae’r rôl a’r effaith y mae ein mabwysiadwyr gorsafoedd, fel Clwb Rotari Caerdydd, wedi’i chael ar ein rhwydwaith yn anfesuradwy. Rydym yn ymdrechu i greu rhwydwaith sy'n cysylltu cymunedau â'i gilydd, creu rhwydwaith sy'n agosach at natur a rhwydwaith sy'n rhoi gwerth i holl bobl Cymru a'r gororau.

“Diolch i gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu ailddechrau rhoi lle canolog i orsafoedd ein rheilffordd yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.”

Dywedodd Steve Jenkins, aelod o Rotari Bae Caerdydd: “Mae gan Glwb Rotari Bae Caerdydd aelodaeth wirfoddol gyda phrofiad mewn amrywiaeth o alwedigaethau. Yr hyn sydd gennym oll yn gyffredin yw ein bod yn dymuno rhoi rhywbeth yn ôl i gymdeithas ac ymgymryd â phrosiectau dyngarol sydd o fudd i'r rhai mewn angen, yn lleol ac yn y byd ehangach. Rydym yn rhan o sefydliad o 1.2 miliwn o aelodau mewn dros 200 o wledydd.

“Rydym yn ymfalchïo yn y gymuned rydym yn byw ynddi ac yn manteisio ar brofiadau Clybiau Rotari eraill Caerdydd. Mae gweithio mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru i gynnal amgylchedd gwych i ymwelwyr â Chaerdydd a thrigolion lleol hefyd yn hynod o bwysig.

“O ganlyniad, rydym yn falch iawn o gael y cyfle hwn i wasanaethu ein cymuned

Cafodd Trafnidiaeth Cymru £100,000 gan gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i wella bioamrywiaeth leol yn ei orsafoedd rheilffordd ar ardal gyfagos.

Fel rhan o'r prosiect Llwybrau Gwyrdd, rydym yn cyflwyno nodweddion gwyrdd mewn 25 o'n gorsafoedd ac mewn pum ardal gymunedol. Bydd y gwelliannau'n cynnwys gosod potiau blodau a bywyd gwyllt i hybu bioamrywiaeth leol ar draws y rhwydwaith.

Gallwch ddarllen mwy am ein prosiect Llwybrau Gwyrdd, a phrosiectau eraill yn ein cymunedau ar ein gwefan yn https://trc.cymru/amdanom-ni/datblygu-cynaliadwy/prosiectau 

Nodiadau i olygyddion


Hanes Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru

  • Gan ddefnyddio arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth y DU i greu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol https://www.heritagefund.org.uk/in- dy-ardal/cymru  
  • Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae dros £30 miliwn yn mynd at achosion da ledled y DU bob wythnos.
  • Dilynwch @HeritageFundCYM ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch yr hashnod #CronfaTreftadaethLoteriGenedlaethol