- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
04 Tach 2022
Ni fydd gwasanaethau rheilffordd ar gael rhwng Pontypridd a Threherbert ar ddau achlysur gwahanol ym mis Tachwedd wrth i Trafnidiaeth Cymru barhau i uwchraddio Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL) ar gyfer Metro De Cymru.
Bydd y cau cyntaf yn digwydd rhwng dydd Sul 6 Tachwedd a dydd Sadwrn, 12 Tachwedd a bydd y cau am yr ail wythnos yr wythnos ganlynol rhwng ddydd Sadwrn 19 Tachwedd i ddydd Gwener 25 Tachwedd.
Bydd y gwaith yn cynnwys gosod sylfeini ar gyfer cyfarpar llinellau uwchben a gosod arwyddion ar hyd y llwybr, gwaith gorsaf, gostwng traciau a gwaith draenio.
Yn ystod y cyfnod cau, bydd gwasanaethau yn lle trên ar waith ac mae Trafnidiaeth Cymru yn annog teithwyr i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.
Bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd yn sylweddol ledled De Cymru ac yn darparu mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru, drwy uno llwybrau rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol. Ariennir y prosiect yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.