- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
09 Tach 2022
Gall myfyrwyr o Goleg Llandrillo Menai deithio am ddim ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn ystod y cyfnod y bydd Pont Menai ar gau.
Mae cytundeb rhwng Coleg Llandrillo Menai a TrC yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio eu tocynnau bws addysg 16 oed a hŷn a ddarperir gan Gyngor Sir Ynys Môn i deithio’n ddi-dâl rhwng Caergybi a Bangor.
Bydd hyn yn ddilys o bob gorsaf ar Ynys Môn (Bodorgan, Caergybi, Llanfairpwll, Rhosneigr, Tŷ-Croes a’r Fali) ar gyfer siwrneiau i Fangor ac oddi yno o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno eu tocyn bws addysg 16 oed a hŷn i hawlio’r teithio am ddim a bydd y cynllun yn dod i ben pan fydd Pont Menai yn ailagor yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu'r Canolbarth, Gogledd a Chymru Wledig: “Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Llandrillo Menai i gynnig teithio am ddim i’w myfyrwyr tra bo gwaith cynnal a chadw brys yn cael ei wneud i Bont Menai.
“Mae gennym hefyd nifer o wasanaethau ychwanegol yn galw yn Llanfairpwll i helpu myfyrwyr a chwsmeriaid eraill yn ystod cau’r bont.”
Bydd wyth gwasanaeth ychwanegol yn dod i ben yn Llanfairpwll o ddydd Iau 10 Tachwedd ymlaen. Gall cwsmeriaid chwilio am yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio drwy wefan, ap neu sianeli cyfryngau cymdeithasol TrC.
Nodiadau i olygyddion
Dyma’r gwasanaethau ychwanegol sy’n galw yn Llanfairpwll:
- 05:11 Caerdydd Canolog i Gaergybi (yn galw yn Llanfairpwll am 09:46)
- 10:41 Caergybi i Lanelli am (11:03)
- 09:35 Maes Awyr Manceinion i Gaergybi am (12:12)
- 13:07 Caergybi i Faes Awyr Manceinion am (13:34)
- 14:34 Caergybi i Gaerdydd Canolog am (14:54)
- 15:06 Birmingham International i Gaergybi am (18:54)
- 17:30 Maes Awyr Manceinion i Gaergybi am (20:24)
- 20:32 Caergybi i Crewe am (20:52)