- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
11 Tach 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru yn nodi Dydd y Cofio trwy ddadorchuddio ei drên Cofio cyntaf.
Mae Trelar Fan Gyrru un o drenau intercity TrC wedi’i orchuddio mewn gwaith celf a grëwyd gan PTM Design, sy’n cynnwys silwetau milwyr ar y rheng flaen. Tra bod pabïau wedi ymddangos ar ochr rhai o’i drenau yn y blynyddoedd blaenorol, dyma drên Cofio pwrpasol cyntaf TrC, a bydd yn coffáu’n barhaol y rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd a'r gwrthdaro ers hynny.
Dyma’r bedwaredd lifrai arbennig ar drenau intercity TrC, a ddefnyddir ar wasanaethau rhwng Caerdydd a Chaergybi, ac, o fis Rhagfyr, De Cymru a Manceinion. Mae’r gweddill yn hyrwyddo tair elusen boblogaidd yn rhanbarth Cymru a’r Gororau: yr RNLI, Alzheimer’s Cymru a Hosbis Tŷ Gobaith Hope House.
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn ailsefydlu gwasanaeth Dydd y Cofio blynyddol yng ngorsaf Caerdydd Canolog, wedi dwy flynedd o orfod gohirio'r digwyddiad oherwydd pandemig Covid-19. Cynhelir y digwyddiad ger cofeb rhyfel yr orsaf yn y prif gyntedd ychydig cyn 11:00 ddydd Gwener 11 Tachwedd. Mae hyn yn ogystal â seremoni Pabïau i Paddington a gynhelir ar fore 11 Tachwedd, lle bydd arweinwyr gwleidyddol a'r diwydiant rheilffyrdd yn cyflwyno pabïau i'w cludo i Lundain ar y trên ar gyfer gwasanaeth Sul y Cofio.
Dywedodd Ryan Williams, Cyfarwyddwr Peirianneg Trafnidiaeth Cymru:
“Mae cyfnod y Cofio bob mis Tachwedd yn atgof dwys o bwysigrwydd heddwch, undod a pharch. Mae ein trên Cofio yn anrhydeddu pawb sydd wedi gwneud yr aberth eithaf mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, ddoe a heddiw, ledled y byd.
“Rydym yn falch o allu cefnogi cymuned ein Lluoedd Arfog. Yn 2020 fe wnaethom lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, gan ymrwymo i drin y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd â thegwch a pharch mewn cymunedau, yr economi a’r gymdeithas pan fyddant yn gwasanaethu gyda’u bywydau. Y trên Cofio yw’r cam pwysig nesaf tuag at yr ymrwymiad hwnnw.”