English icon English

Datganiad yr Hydref yn golygu y bydd pobl yn talu mwy am lai – Rebecca Evans

Autumn Statement leaves people paying more for less – Rebecca Evans

Mae Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, wedi dweud y bydd Datganiad yr Hydref heddiw yn golygu y bydd pobl yn talu mwy am lai.  

Cadarnhaodd datganiad y Canghellor gynnydd mewn trethi i bobl ledled y Deyrnas Unedig, yn ogystal â thoriadau gwariant sylweddol mewn cyfnodau adolygu gwariant yn y dyfodol.

Mae rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dynodi’r gostyngiad mwyaf mewn incwm gwario ers dechrau cadw cofnodion, ac ni ddisgwylir i incwm cartrefi ddychwelyd at lefelau cyn y pandemig tan 2028.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

"Does dim dwywaith amdani: mae'r datganiad hwn yn cadarnhau ein bod mewn dirwasgiad dwfn. Bydd incwm gwirioneddol pobl yn gostwng 7% dros y ddwy flynedd nesaf, tra bod chwyddiant ar ei gyfradd uchaf ers 41 mlynedd.

"Mae Datganiad yr Hydref heddiw’n dangos ein bod yn talu’r pris am fethiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i reoli'r economi dros y 12 mlynedd diwethaf.

“Mae’n achosi poen heddiw a phoen yfory drwy drethi uwch a chostau ynni uwch nawr a thoriadau gwariant i ddod. Yn y bôn, mae’n golygu y bydd pobl yn talu mwy am lai.

"Trwy gydol y broses hon, rwyf wedi dweud yn glir wrth y Canghellor na all Cymru fforddio cyni dwfn a niweidiol. Mae'n rhyddhad bod y Canghellor o leiaf wedi ymateb yn rhannol i’m galwadau am fwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ar unwaith.

"Er hynny, mae’n hollol amlwg nad yw’r datganiad heddiw hyd yn oed yn dod yn agos at ddarparu’r cyllid sydd ei angen i ddiogelu cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yn erbyn yr heriau aruthrol sy’n cael eu hachosi gan lefelau chwyddiant eithriadol o uchel. 

“Byddwn ni’n dadansoddi manylion y cyhoeddiadau heddiw yn ofalus cyn ein cyllideb ym mis Rhagfyr.”