English icon English
Y Gaer -2

MAE GAN ŴYL AMGUEDDFEYDD CYMRU GYNLLUNIAU MAWR AR GYFER HANNER TYMOR

WELSH MUSEUMS FESTIVAL HAS HALF TERM COVERED

Yr wythnos hon mae amgueddfeydd ledled Cymru yn cynnig hanner tymor a fydd yn eich ysbrydoli, wrth i ail wythnos Gŵyl Amgueddfeydd Cymru ddechrau.

Gyda hanner tymor Cymru a hanner tymor y DU yn rhychwantu pythefnos rhyngddyn nhw, mae amgueddfeydd yn cynnal gŵyl arbennig i sicrhau bod digon o weithgareddau i ryngu bodd pobl leol ac ymwelwyr o bob oedran. A gyda chostau byw yn codi yn aruthrol, bydd yr ŵyl eleni yn cynnig mwy o weithgareddau AM DDIM nag erioed o'r blaen.  Mae'r rhain yn cynnwys pythefnos o Lên Dreigiau, Codau Môr-ladron, Teithio Amser a Thrysorau, Anturiaethau y tu ôl i'r Llen, Crefftau, a Halibalŵ Calan Gaeaf.

Ymwelodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden ag Amgueddfa Y Gaer, Aberhonddu i weld y gweithgareddau maen nhw'n eu cynnal, gan gynnwys ysbrydion allan o brintiau dwylo a mymis o diwbiau cardfwrdd, a chwrddodd hi â Dosbarth Un Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy sy'n edrych ymlaen at yr egwyl hanner tymor.

Dywedodd y Gweinidog: "Mae amgueddfeydd gwych Cymru yn ategu ein hymdeimlad o genedligrwydd a lles. Maen nhw hefyd yn allweddol i'n heconomi twristiaeth. Ar adeg pan fydd teuluoedd ac unigolion ledled y DU yn cael trafferth ymdopi â chostau byw uwch, rydyn ni'n teimlo'n gryf y dylai hanes a thrysorau Cymru barhau i fod ar gael i bawb. Felly mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi Gŵyl Amgueddfeydd Cymru i gynnig pythefnos llawn o ddigwyddiadau ar gyfer pob oedran, gan groesawu ymwelwyr a chefnogi ein cymunedau ag amrywiaeth ddeniadol o ddigwyddiadau a gweithgareddau mewn amgueddfeydd ledled Cymru. Ac yn bwysig, rydyn ni'n galluogi cynnig mwy o'r digwyddiadau hyn nag erioed yn rhad ac am ddim.

"Os ydych yn chwilio am rywbeth i'w wneud dros yr hanner tymor, cofiwch ystyried beth sydd ar gael gan eich amgueddfa leol."

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach, y Cynghorydd Matthew Dorrance: "Bob blwyddyn mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn cynyddu ac yn well, gyda theuluoedd yn gwybod y bydd rhywbeth cyffrous yn digwydd yn ein Hamgueddfa. Mae gallu dod â phlant a phobl ifanc yn ôl i'n hadeiladau mor arbennig ac yn helpu i ddatblygu eu chwilfrydedd ar gyfer hanes, celf a threftadaeth leol.  Mae'r Gaer yn leoliad newydd mor ddeinamig i'w ddarganfod, gyda'i amgueddfa gyfunol unigryw, oriel gelf a llyfrgell y dref. Mae yna wastad hwyl i gael  Y Gaer, ac eleni rydym wedi cyflwyno Calan Gaeaf trwy wneud sesiynau chwarae blêr, amseri stori bwci-bo, a gweithdai coginio a phenillion Calan Gaeaf.

Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn bosibl diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ddigwyddiad blynyddol sy'n cael ei gyflwyno gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, sef y corff eirioli ar gyfer amgueddfeydd ac orielau a'r rhai sy'n gweithio yn y sector hwn yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae'n cynrychioli dros 100 Amgueddfa Achrededig unigryw yng Nghymru, o amgueddfeydd bach annibynnol i amgueddfeydd cenedlaethol. Gyda'i gilydd, mae'r casgliadau amhrisiadwy hyn yn adrodd stori Cymru. Maen nhw'n adnodd gwerthfawr ar gyfer dysgu, archwilio a gwybodaeth am ein hunaniaeth leol a chenedlaethol, a'r ffordd rydym wedi byw yma yng Nghymru ers cyn cof.

Dywedodd Nêst Thomas, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru: "Rwy'n ddiolchgar i'n hamgueddfeydd gwych am dderbyn yr her o gymryd rhan mewn gŵyl hirach eleni, fel y gallen ni gefnogi economïau twristiaeth lleol a'n cymunedau i gael hanner tymor i'w gofio. Inni mae'n arbennig o bwysig, ar yr adeg hon o galedi ariannol uwch, ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn ni i gefnogi lles ein hymwelwyr – felly rydyn ni wrth ein boddau y bydd mwy o weithgareddau nag erioed ar gael am ddim.  Dewch a gweld ein trysorau, cymryd rhan mewn halibalŵ hanesyddol, datrys posau, dysgu, gwneud eitemau crefft, clywed toreth o storïau, teithio mewn amser a mwynhau."

Un o brif themâu'r ŵyl eleni yw 'trysor'. Bydd digwyddiadau'r ŵyl yn archwilio'r trysorau sy'n cael eu cadw yng nghasgliadau amgueddfeydd, ac yn gofyn cwestiynau fel 'beth sy'n drysor ichi' a 'pham? I'r perwyl hwnnw, bydd ymwelwyr yn eu harddegau'n cael y cyfle i gymryd rhan mewn Cystadleuaeth Ffotograffiaeth a fydd yn eu hannog i archwilio rhai o'u syniadau ynghylch trysor mewn ffordd greadigol, a bydd plant yn mwynhau chwilio am gist drysor Bart Ddu drwy ddatrys cyfres o bosau a chracio cod cyfrinachol. Ac mae hefyd cyfle i ymwelwyr iau helpu i ffeindio'r dreigiau bach!

Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfeydd.cymru