Skip to main content

TfW opens new training facility

28 Hyd 2022

Heddiw, mae efelychydd o’r radd flaenaf sydd wrth galon cyfleuster hyfforddi newydd sbon wedi cael ei agor gan Trafnidiaeth Cymru (dydd Iau 27 Hydref).

Bydd One City Place yng Nghaer yn chwarae rhan allweddol yn hyfforddi 64 o yrwyr a 56 o ddargludyddion dros y flwyddyn nesaf a bydd hefyd yn ganolbwynt hyfforddi ar gyfer staff gorsafoedd a swyddfeydd tocynnau, anfonwyr a gweithlu'r depo.

Bydd yr efelychydd yn hyfforddi gyrwyr i weithredu’r 77 o drenau Dosbarth 197 newydd sbon, y mae’r cyntaf ohonynt ar hyn o bryd yn y camau olaf o'r broses brofi a hyfforddi cydweithwyr cyn y bydd yn dechrau gwasanaethu'r gaeaf hwn.

Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Rheolwr Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn falch iawn o agor ein cyfleuster hyfforddi newydd sbon yng Nghaer

“Mae gan Gaer hanes hir fel dinas reilffordd, sy’n dyddio’n ôl i agoriad y rheilffordd gyntaf yma ym 1840 – bydd ein buddsoddiad yn y cyfleuster newydd hwn dafliad carreg o’r orsaf yn sicrhau y bydd yn parhau i fod yn ganolfan bwysig i’r diwydiant rheilffyrdd am flynyddoedd maith i ddod

“Mae One City Place wedi cael ei adeiladu i'r safon uchaf bosibl, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r cyfleusterau gorau posibl i’n cydweithwyr.”

Mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi mwy na £800m mewn trenau newydd i drawsnewid y profiad i gwsmeriaid ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau, gan alluogi Trafnidiaeth Cymru i ddarparu gwasanaethau cyflymach, amlach gyda gwell hygyrchedd a llai o allyriadau carbon.