Skip to main content

Coach travel available for rugby fans

01 Tach 2022

Gall cefnogwyr rygbi sy'n mynd i Gaerdydd ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn archebu tocyn ar gyfer taith goets ddwyffordd gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) neu Big Green Coach, mewn cydweithrediad ag Undeb Rygbi Cymru (URC).

Mae Trafnidiaeth Cymru ac URC wedi dod ynghyd i ddarparu nifer o opsiynau i gefnogwyr rygbi na allant deithio i brifddinas Cymru ar y trên oherwydd y gweithredu diwydiannol cenedlaethol.  Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn rhan o’r anghydfod ond mae'r gweithredu diwydiannol sy'n deillio o'r anghydfod rhwng RMT a Network  Rail yn golygu na all weithredu gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.

O ganlyniad, mae gwasanaeth rheilffordd llawer llai o Gymoedd De Cymru a Chasnewydd cyn y gêm a dim gwasanaeth rheilffordd o Gaerdydd ar ôl y gêm.  Felly, ni ddylai pobl deithio ar y trên.

Teithiau bws dwyffordd Trafnidiaeth Cymru

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau o faes parcio Gorsaf Drenau Abercynon a Gorsaf Reilffordd Pontypridd (blaen yr orsaf) am 11am a 11.30am ddydd Sadwrn 5 Tachwedd, gyda gwasanaeth coets dwyffordd ar gael am 6pm a 6.30pm ar ôl y gêm.

Bydd bysus yn codi ac yn gollwng o'r Ganolfan Ddinesig (Rhodfa Brenin Edward VII Caerdydd) yng nghanol dinas Caerdydd, taith gerdded fer o Stadiwm Principality.

Rhaid archebu tocynnau bws dwyffordd ymlaen llaw.  Nid yw tocynnau trên cyfredol yn ddilys i deithio ar goets.  Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a bydd tocynnau'n cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i'r felin.

Gellir archebu tocyn coets yma https://trc.cymru/lleoedd/digwyddiadau/cymru-v-seland-newydd   

Taith bws dwyffordd Big Green Coach

Os nad ydych yn teithio gyda TrC, bydd gwasanaeth coetsys ar wahân ar gael.  Mae URC, mewn cydweithrediad â Big Green Coach, y cwmni teithio digwyddiadau mwyaf yn y DU, wedi trefnu gwasanaethau coetsys arbennig i gefnogwyr sy'n teithio i Gaerdydd ar ddydd Sadwrn 5 Tachwedd ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd yn Stadiwm Principality.

Mae teithiau bws dwyffordd ar gael o 15 o leoliadau ledled Cymru a dinasoedd mawr yn Lloegr gan gynnwys Birmingham, Reading a Llundain, yn uniongyrchol i ganol dinas Caerdydd.   Mae pris tocyn coets dwyffordd yn dechrau o £28, ac mae'r holl goetsys wedi'u hamserlennu i gyrraedd mewn digon o bryd cyn y gêm a byddant yn dychwelyd y cefnogwyr gartref eto, yn dilyn y chwiban olaf.

Gellir prynu tocynnau ar-lein yn:   https://www.biggreencoach.co.uk/events/wales-v-new-zealand-coach-travel-to-principality-stadium-cardiff  

Mae Big Green Coach wedi ymrwymo’n llwyr i warchod yr amgylchedd a bydd yn gwrthbwyso’r holl garbon a gynhyrchir ar gyfer y gwasanaethau coetsys hyn – gan wneud rhwydwaith Big Green Coach i’r rygbi yn daith carbon niwtral.

Parcio beiciau

Mae lle storio beiciau diogel dan do ar gyfer hyd at 50 o feiciau bellach ar gael yn The Bike Lock ym Mhlas Windsor yng nghanol dinas Caerdydd.  Ewch i   www.thebikelock.co.uk   i gael rhagor o wybodaeth.

Bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn darparu mannau parcio diogel ychwanegol i feiciau yng Ngorsaf Caerdydd Canolog. 

Nodiadau i olygyddion


Dyma'r rhestr lawn o leoliadau y bydd y Big Green Coach yn codi teithwyr ar gyfer y gêm: Caerfaddon, Birmingham, Llanfair ym Muallt, Aberhonddu, Pen-y-bont ar Ogwr, Bryste, Bae Colwyn, Glyn Ebwy, Caerloyw, Llanelli, Llundain (Gorsaf Goets Victoria), Merthyr Tudful, Trefynwy, Castell-nedd, Trecelyn, Casnewydd, Pont-y-pŵl, Port Talbot, Reading, Abertawe, Swindon, Caerwrangon a Wrecsam.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaeth bws yn lle trên hynod gyfyngedig o Gaerdydd Canolog i Radur ar ôl y gêm yn ogystal â'r gwasanaeth coetsys.

Bydd modd archebu tocynnau coets dwyffordd Trafnidiaeth Cymru tan 4.15pm ddydd Sadwrn 5 Tachwedd.