English icon English

Cyfarfod trawsffiniol hanesyddol i atgyfnerthu cysylltiadau gweithio

Historic cross-border meeting to strengthen working relations

Mae atgyfnerthu cysylltiadau Gogledd Cymru ag Iwerddon a Gogledd-orllewin Lloegr yn hanfodol bwysig er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd newydd, bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn dweud heddiw (Dydd Iau, 18 Mai).

Bydd yn croesawu Maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, Maer Dinas-Ranbarth Lerpwl, Steve Rotheram, a Chonswl Cyffredinol Iwerddon, Denise McQuade ar gyfer cyfarfod hanesyddol â Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr Awdurdodau Lleol yng Ngogledd Cymru.

Bydd yr ymwelwyr yn cael y cyfle i weld y gwaith arloesol sy'n cael ei gynnal yn y cyfleuster Gweithgynhyrchu Uwch, AMRC Cymru, ym Mrychdyn, ac i fynd ar daith o amgylch Porthladd Mostyn i ddeall mwy am y cyfleoedd posibl ar y safle ac ar hyd arfordir Gogledd Cymru ar ddydd Iau (18 Mai).

Mae gan Ogledd Cymru hanes hir a balch o weithio gydag Iwerddon a Gogledd-orllewin Lloegr, ac mae ganddyn nhw gysylltiadau economaidd a diwylliannol cryf.

Mae Llywodraeth Cymru yn un o aelodau sefydlu Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, sy'n sicrhau cydweithredu trawsffiniol er budd y ddau ranbarth. Mae'r Gynghrair wedi arwain at nifer o lwyddiannau dros y blynyddoedd, ond roedd gwaith rhwng partneriaid ar y ddwy ochr yn hanfodol yn ystod y pandemig.

Cafodd y Cyd-ddatganiad hanesyddol rhwng Iwerddon a Chymru a'r Cynllun Gweithredu ar y Cyd eu llofnodi yn 2021. Maent yn amlinellu'r ffordd y bydd Cymru ac Iwerddon yn gweithio gyda'i gilydd ar feysydd mor amrywiol â diwylliant ag iaith, yr economi ac ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ar lefel ranbarthol.

Mae'r ddwy lywodraeth eisoes wedi trafod cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy, yn y Fforwm Gweinidogol yn Nghorc y llynedd. Roedd y Prif Weinidog a Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, yn bresennol.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Mae cysylltiadau Gogledd Cymru ag Iwerddon a Gogledd-orllewin Lloegr yn gryf, yn agos ac yn ddwfn.

"Mae gennyn ni botensial gwych i ategu ac i barhau i adeiladu ar y cysylltiadau presennol hynny – gyda'n gilydd rydyn ni'n gallu gweithio ar yr heriau mawr rydyn ni i gyd yn eu hwynebu, a bachu cyfleodd newydd wrth inni ddatblygu dyfodol carbon isel, gan greu swyddi newydd a datblygu'r economi.

"Mae heddiw yn gyfle gwych i ddod â phawb at ei gilydd, gan gynnwys arweinwyr awdurdodau lleol ar draws Gogledd Cymru, i drafod sut y gallwn ni weithio ar gyfer pobl ar draws Gogledd Cymru, Iwerddon a Gogledd-orllewin Lloegr."

Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths: "Mae gennyn ni hanes balch o weithio gyda'n cymdogion yn Iwerddon a Gogledd-orllewin Lloegr, ac mae’n wych croesawu'r Meiri a'r Conswl Cyffredinol i Ogledd Cymru, i drafod cyfleoedd eraill posibl ar gyfer y dyfodol.

"Mae'n bwysig ein bod yn adeiladu ar ein cysylltiadau cydweithredol i fanteisio i'r eithaf ar ein cryfderau mewn meysydd fel ynni adnewyddadwy ar hyd ein harfordiroedd, rhannu'r arferion gorau ar gyfer diwylliant ac iaith, trafnidiaeth gyhoeddus a logisteg porthladdoedd.

"Bydd prosiectau trawsnewid, fel y rhai sy'n cael eu cyflawni gydag Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru drwy Fargen Twf y Gogledd, sy'n werth £1.1 biliwn, hefyd yn allweddol wrth hybu twf a buddsoddiadau yn y rhanbarth hyderus hwn sy'n edrych i'r tu allan."

Dywedodd Maer Dinas-ranbarth Lerpwl, Steve Rotheram: "Mae ein hardal yn ffodus bod â pherthynas mor agos â'n ffrindiau yng Nghymru sy'n mynd yn ôl gannoedd o flynyddoedd. Mae'n berthynas rydyn ni'n ei thrysori hyd heddiw – ac mae'n eithriadol o arbennig, nid yn unig achos ein bod yn gymdogion, ond oherwydd y gwerthoedd a'r diwylliannau cyffredin rydyn ni'n eu rhannu.

"Yn Ninas-ranbarth Lerpwl, rydyn ni eisoes yn ganolbwynt ar gyfer buddsoddi, gyda chlystyrau o'r radd flaenaf ar garreg ein drws – ond hoffwn i fynd ymhellach byth drwy ein sefydlu ein hunain ar flaen meysydd gwyddoniaeth ac arloesedd y DU. Mae gen i'r holl allu, yr asedau naturiol – a'r ewyllys wleidyddol i sefydlu ein hunain fel Arfordir Ynni Adnewyddadwy Prydain, a manteisio i'r eithaf ar y miloedd o swyddi a'r cyfleoedd hyfforddi a fydd yn dod i'r ardal o ganlyniad. Gan weithio ar y cyd, hoffwn i weld ein dau ranbarth yn manteisio ar ein cryfderau cyffredin a'n hasedau unigryw i adeiladu dyfodol cryfach ar gyfer ein hardaloedd a'n pobl."

Dywedodd Maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham: Mae gan Fanceinion, a gweddill Gogledd-orllewin Lloegr, gysylltiadau cryf iawn â Gogledd Cymru drwy ein heconomi, yn ogystal â’r nifer fawr o bobl sy’n gweithio, yn byw neu’n astudio yn y rhanbarth.

“Rwy’n falch iawn bod yma heddiw, fel y gallwn ni weithio i adeiladau cysylltiadau agosach yn y dyfodol a fydd yn atgyfnerthu economi yn y gogledd sydd eisoes yn tyfu, ac yn ein galluogi i rannu’r arferion gorau ar gyfer materion allweddol fel trafnidiaeth gyhoeddus a’r amgylchedd.

“Ni fu cyfnod mwy cyffrous erioed ar gyfer datganoli yn Lloegr. Mae Bargen Datganoli flaengar gan y Llywodraeth ar gyfer Manceinion yn caniatáu i’n Dinas-ranbarth ni fynd ymhellach ac yn fwy cyflym nag erioed o’r blaen, gan roi rhagor o allu inni wneud gwelliannau gwirioneddol i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma, a’n helpu ni i adeiladau ar lwyddiannau ein heconomi.

“Mae’n wych cael y cyfle i rannu, â chymheiriaid yma yng Nghymru, fwy am ein taith ym Manceinion Fwyaf; er enghraifft, datblygu BeeNetwork – ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig ar ffurf rhwydwaith Llundain – a’r cynlluniau a gyhoeddais i ddoe i hybu sgiliau technegol yn ein rhanbarth, gyda llwybr clir ar gyfer cefnogi pobl ifanc sydd am ddilyn gyrfaoedd technegol yn hytrach na mynd i’r brifysgol.”

Dwedodd Conswl Cyffredinol Iwerddon, Denise McQuade: "Mae'r cysylltiadau rhwng Iwerddon, Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr yn gryf ac yn barhaus. Drwy'r Cyd-ddatganiad rhwng Iwerddon a Chymru a'r Cynllun Gweithredu ar y Cyd, mae Iwerddon wedi ymrwymo i weithio ar y cyd i gefnogi twf gwyrdd a datblygu economaidd cynaliadwy ar ddwy ochr Môr Iwerddon.

"Mae Swyddfa Conswl Cyffredinol Iwerddon ar gyfer Gogledd Lloegr, a agorodd ym Manceinion yn 2021, a Swyddfa Enterprise Ireland a agorodd yn yr un ddinas yn 2019, yn dangos ymhellach ein hymrwymid i gydweithredu ar draws y rhanbarth ehangach.

"Rwyf wrth fy modd yn cael ymweld â Gogledd Cymru i drafod y ffordd y byddwn ni'n cydweithredu, ac i weld yn berson rai o'r prosiectau cyffrous ac uchelgeisiol sy'n cael eu cynnal."