Skip to main content

Improvement works to begin at Chester Station

19 Mai 2023

Fel rhan o Weledigaeth Gwella Gorsaf Trafnidiaeth Cymru (TrC), bydd gwaith i wella cyfleusterau cwsmeriaid yng ngorsaf Caer yn dechrau fis nesaf.

Ddechrau mis Mehefin, bydd MPH Construction yn dechrau gweithio ar nifer o uwchraddiadau sy'n anelu at wella profiad cyffredinol cwsmeriaid sy'n ymweld â gorsaf Caer, gan gynnwys brandio ac arwyddion newydd, pwynt cymorth newydd i deithwyr, mannau parcio beiciau, microffonau symudol a systemau sain, system teledu cylch cyfyng newydd ar gyfer yr orsaf gyfan, adnewyddu'r toiledau yn y cyntedd ac ar blatfformau 4 a 7, toiled sydd a lle newid newydd, man ail-lenwi poteli dŵr, seddi ar y platfformau ac yn y cyntedd, cyfleusterau gwastraff ac uwchraddio'r goleuadau LED.

Bydd Sgriniau Gwybodaeth i Gwsmeriaid newydd yn cael eu gosod ledled yr orsaf mewn lleoliadau presennol ac mewn rhai newydd.  Bydd hyn yn cynyddu gwybodaeth y gwasanaeth trên ar y platfformau ac o fewn ystafelloedd aros yr orsaf.  Bydd sgriniau newydd yn cael eu gosod ar gyfer teithiau ymlaen, gan gynnwys gwybodaeth am fysiau, a bydd sgrin ryngweithiol yn cael ei gosod yn y cyntedd.  

Bydd y gwaith gwella hefyd yn cynnwys ail-bwrpasu'r swyddfa docynnau i greu uned fanwerthu newydd, fodern, desg gwasanaeth cwsmeriaid newydd gyda chyfleusterau gwerthu tocynnau, peiriannau gwerthu tocynnau ychwanegol gyda gatiau safonol a llydan.  Bydd ystafell dawel newydd yn cael ei hagor, man sy’n ddiogel ac o'r neilltu lle gall cwsmeriaid ymlacio wrth aros am eu trên.  

Dywedodd Lisa Cleminson, Cyfarwyddwr Gorsafoedd, “Rydym yn hapus iawn y gallwn symud ymlaen â'r prosiect hwn.  Mae'r gwelliannau hyn i'r orsaf yn cynnig manteision diriaethol i'n cwsmeriaid a'n hymwelwyr yng Nghaer.  Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn cyflwyno amrywiaeth o gyfleusterau newydd ac wedi'u huwchraddio, yn gwella profiad cyffredinol y cwsmer."

Mae TrC yn gweithio'n agos gyda diwydiant a phartneriaid lleol i leihau tarfu yn ystod y gwaith hwn i gwsmeriaid a'r gymuned leol. Byddwn yn codi compownd safle gwaith hanfodol ar gyfer y gwaith gwella hwn ym maes parcio Gorllewin Caer o ddydd Sadwrn 27 Mai tan yn gynnar yn 2024.  Bydd hyn yn golygu y bydd nifer y lleoedd pario ar gael yn y maes parcio hwn rhywfaint yn llai.  Ni fydd nifer y lleoedd pario sydd ar gael ym maes parcio Gorsaf Dwyrain Caer yn cael eu heffeithio.

Dywedodd Kim Hawkins, Rheolwr Gorsaf y Grŵp: “Rydym yn hapus i weld y buddsoddiad hwn mewn cyfleusterau cwsmeriaid ledled yr orsaf ac rwy'n hyderus y bydd staff yn cefnogi ein cwsmeriaid a'n contractwyr ar y safle, er mwyn sicrhau yr effeithir cyn lleied a phosibl arnynt.  Byddwn yn parhau i gydweithio i sicrhau bod ein gorsafoedd yn lleoedd diogel, hygyrch a chroesawgar i deithwyr."​​​​​​​

Nod y gwelliannau hyn yw gwella’r profiad a gaiff ein cwsmeriaid a’r gobaith yw y bydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau erbyn Gwanwyn 2024.  Mae TrC yn annog cwsmeriaid i ganiatáu rhagor o amser i deithio rhag ofn y bydd unrhyw darfu i wasanaethau. ​​​​​​​

Fel rhan o Weledigaeth Gwella Gorsaf TrC, bydd gwelliannau yng ngorsafoedd y Fflint a Runcorn East yn dechrau yn ddiweddarach yn yr haf.  Cwmni Taziker fydd yn gwneud y gwaith hwn.

Nodiadau i olygyddion


Mae rhagor o wybodaeth am y gwelliannau hyn ar gael yma trc.cymru/gwelliannau-caer  

Bydd TrC yn cynnal sesiynau ‘Cwrdd â'r Rheolwr’ yng ngorsaf Caer cyn ac yn ystod y gwaith ar y dyddiadau canlynol:

Dydd Mawrth 23 Mai – 9am – 3pm

Dydd Iau 1 Mehefin – 12pm – 7pm

Dydd Gwener 16 Mehefin - 9am – 3pm

Dydd Mercher 21 Mehefin -12pm – 7pm