English icon English
Credit  Buttress Architects (4)-2

NAWR AR AGOR: rhannau o Gastell Caernarfon sydd heb fod ar agor i’r cyhoedd ers canrifoedd — diolch i fuddsoddiad gwerth £5m

NOW OPEN: areas of Caernarfon Castle that have not been accessed for centuries — thanks to £5m investment.

Ar ôl tair blynedd o waith, mae’r prosiect gwella i brif borthdy’r Castell wedi’i gwblhau.

Heddiw, cyhoeddodd Cadw fod prosiect cadwraeth a datblygu 3 blynedd o hyd ym Mhrif Borthdy Castell Caernarfon wedi’i gwblhau — gan roi mynediad i rannau o’r castell nas gwelwyd yn agos ers canrifoedd.

Mae’r buddsoddiad mawr hwn, gwerth £5m, yn cynnwys gosod dec ar y to a lloriau newydd yn nhyrau’r porthdy. Mae lifft wedi’i osod hefyd sy’n caniatáu mynediad i bawb i’r lefelau uchaf — y tro cyntaf, yn ein tyb ni, ar gyfer unrhyw safle Treftadaeth y Byd tebyg yn y DU. Bydd y prosiect yn sicrhau bod y castell yn groesawgar ac yn hygyrch ac yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i economi’r ardal leol. Mae cynnig arlwyo newydd, mannau addysgol a manwerthu, a chyfleusterau hygyrch i ymwelwyr hefyd wedi’u cynnwys yn y gwaith, gan gynnwys cyfleuster Llefydd Newid. Cefnogir y cynllun gan Lywodraeth Cymru a gan £1.04 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy'r Rhaglen Cyrchfan Denu Twristiaeth, a reolir gan Croeso Cymru. 

Yn ganolog i’r prosiect gwella mae dehongliad artistig newydd, sy’n canolbwyntio ar y thema: ‘y dwylo a adeiladodd y Castell’. Nod y dull modern hwn o ddehongli yw cyflwyno stori’r Castell o safbwynt gwahanol, gan annog ymwelwyr i ailfeddwl sut maen nhw’n gweld hanes y safle. Cefnogwyd y gwaith o gyflwyno’r prosiect gan Buttress Architects a Grosvenor Construction, a ailosododd lefelau llawr tyrau’r porthdy, yn ogystal ag adeiladu stepiau newydd o’r llawr cyntaf i’r dec ar y to, a gosod gwydr ysgafn clir i ddarparu mynediad heb stepiau i’r to.

Yn dilyn datblygiad mor helaeth, mae Cadw bellach yn annog ymwelwyr o bob oed a gallu i ddod i weld y golygfeydd eithriadol o’r murfylchau uchaf ar ddec y to nas gwelwyd o’r blaen ers canrifoedd.

Dywedodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: “Mae gwneud ein safleoedd hanesyddol yn fwy hygyrch yn ffordd wych — ac angenrheidiol — o ofalu am henebion hanesyddol Cymru er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

“Mae prosiectau gwella fel yr un yma yn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at hanes Cymru a dysgu mwy am dreftadaeth y genedl. Bydd dehongliad newydd Cadw yn cefnogi hyn ymhellach, gan wahodd ymwelwyr i ddarganfod straeon llai adnabyddus o hanes y Castell.

“Dyma'r datblygiad diweddaraf yng Nghaernarfon ac y mae’r dref hefyd wedi elwa o raglen ddatblygu helaeth a pharhaus i wella ei statws ymhellach fel cyrchfan eiconig yng Nghymru."

Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw: “Hoffem ddiolch i’n hymwelwyr ac aelodau gwerthfawr Cadw am eu hamynedd yn ystod y tair blynedd o waith cadwraeth a datblygu yng Nghastell Caernarfon. Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob gallu i brofi’r rhan hon o’r castell am y tro cyntaf ers canrifoedd, a gobeithiwn y bydd ein dehongliad newydd yn cynnig ffyrdd newydd i ymwelwyr ddeall stori’r Castell.

“Bydd dehongliad y dwylo a adeiladodd y Castell yn annog ymwelwyr i wneud yr union beth hwnnw — gan ganolbwyntio ar y gymuned a’r gweithwyr a fu’n byw yn y Castell. Mae eu straeon nhw yn aml yn droednodiadau yn hytrach na phrif ganolbwynt dehongliad hanesyddol. Bydd y dehongliad newydd hwn yn dangos y sgil a’r wybodaeth a ddefnyddiwyd i adeiladu’r castell sydd bellach yn Safle Treftadaeth y Byd. Mae hefyd yn cynnig cyd-destun a fydd yn rhoi dealltwriaeth lawnach o’r gwrthdaro dwys a fu rhwng y tywysogion Cymreig brodorol a brenhinoedd Lloegr.”

Am fwy o wybodaeth ac i archebu ymweliad â Chastell Caernarfon, ewch i https://cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/castell-caernarfon?

Nodiadau i olygyddion

Dyma linell amser trawsnewidiad y porthdy — https://cadw.llyw.cymru/prosiect-porth-y-brenin-castell-caernarfon?

Wrth baratoi ar gyfer y datblygiadau a’r gwaith cadwraeth, fe wnaeth prosiect cadwraeth trylwyr — a gwblhawyd gan Brifysgol Salford o fis Ionawr 2019 tan fis Mawrth 2021 — sicrhau na fyddai elfennau newydd y gwaith gwella yn gorchuddio unrhyw arteffactau. Ymhlith darganfyddiadau’r ymdrechion archeolegol yng Nghastell Caernarfon mae darnau o grochenwaith Rhufeinig, esgyrn anifeiliaid a theils, a’r cyfan yn dyddio o’r ganrif gyntaf OC. Ceir mwy o wybodaeth yma: https://cadw.llyw.cymru/amdanom-ni/newyddion/y-cloddiad-mwyaf-erioed-yng-nghastell-caernarfon-yn-cynnig-cliwiau-newydd-am?

Mae Castell Caernarfon wedi sefyll ers dros 700 mlynedd, ac mae’n cael ei gydnabod yn aml fel un o adeiladau mwyaf yr Oesoedd Canol yn y DU. Saif y castell ar lan afon Seiont ac mae’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd ochr yn ochr â chestyll Harlech, Conwy a Biwmares. Ceir mwy o wybodaeth am Gastell Caernarfon yma: https://cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/castell-caernarfon?