English icon English
Town position statement-2

Llywodraeth Cymru'n cyflwyno’r camau nesaf ar gyfer trawsnewid canol trefi

Welsh Government shines light on next steps for transforming town centres

Mae Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, wedi ymweld â Chastell-nedd i weld sut y gall adfywio helpu canol trefi i ffynnu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Datganiad Sefyllfa ar Ganol Trefi, yn nodi'r heriau allweddol y mae canol trefi ledled Cymru yn eu hwynebu a chyfres o gamau gweithredu i geisio mynd i'r afael â nhw.

Ymwelodd y Gweinidog â'r ganolfan hamdden newydd yng Nghastell-nedd a agorodd yn gynharach eleni. Mae'r safle'n cynnwys llyfrgell a gofod manwerthu yn ogystal â phwll nofio, campfa ac ystafell iechyd. Mae'r datblygiad yn enghraifft o'r polisi 'Canol Tref yn Gyntaf' ar waith, gyda llyfrgell a chyfleusterau hamdden yn symud o gyrion y dref i safle mwy canolog, gan helpu i ddenu pobl i ganol y dref.

Cost y prosiect oedd tua £16m, gyda chyfraniad o £6.5m gan raglen adfywio Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae'r ganolfan hamdden yn agos i ddatblygiad tai yn Lôn Shufflebotham a swyddfeydd ar eu newydd gwedd yn Stryd y Gwynt, sydd hefyd wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r prosiectau hyn yn dod â chartrefi, busnesau a gwasanaethau newydd i'r dref i gynyddu bywiogrwydd a nifer yr ymwelwyr, gan helpu i roi bywyd newydd i ganol trefi.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

"Rydyn ni am i drefi ledled Cymru fod wrth wraidd cymunedau Cymru, yn fannau lle gall pobl gael mynediad at wasanaethau, siopau, gofod cymunedol a diwylliannol.

"Mae adfywio canol ein trefi yn gymhleth ond ni fydd hyn ond yn digwydd os oes gennym ddealltwriaeth ar y cyd o'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu. Mae'r rhain yn cynnwys y cynnydd mewn datblygiadau y tu allan i drefi sy’n golygu bod ceir preifat yn hanfodol, y twf mewn siopa ar-lein, a’r ffaith nad yw rhai gwasanaethau hanfodol bellach wrth law.

"Bwriad ein rhaglen Trawsnewid Trefi yw helpu i wrthdroi'r dirywiad yma, gyda £100m dros y tair blynedd nesaf i roi bywyd newydd i drefi ledled Cymru. Bydd y datganiad heddiw yn cyfrannu at yr ymdrechion hyn a byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid canol trefi i adfywio a thrawsnewid trefi ar hyd a lled Cymru."

Deillia’r datganiad sefyllfa o drafodaeth rhwng rhanddeiliaid y llywodraeth a phrif randdeiliaid canol tref, yn ogystal â chyhoeddi adroddiad Small Towns, Big Issues: adroddiad ymchwil annibynnol | LLYW.CYMRU yr Economi Sylfaenol ac adroddiad Archwilio Cymru Adfywio Canol Trefi yng Nghymru

Dywedodd yr Athro Karel Williams - Ysgol Fusnes Manceinion ac awdur yr adroddiad Small Towns, Big Issues:

"Amlinellodd ein hadroddiad cychwynnol y materion y mae canol trefi yng Nghymru yn eu hwynebu a gosododd yr her i weithredu ystyrlon ddigwydd. Mae Datganiad Sefyllfa Llywodraeth Cymru ar Ganol Trefi yn ystyried hyn ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio a meddwl ar y cyd. Ar sail dealltwriaeth gyffredin o'r materion, mae'r Datganiad yn cynnig set gydlynol o gamau a fydd yn sbarduno newid. Rwy'n edrych ymlaen at weld y sefyllfa’n newid i drefi ledled Cymru wrth i'r camau gweithredu hyn sbarduno newid trawsnewidiol."

Mae'r camau a amlinellir yn y datganiad sefyllfa yn cwmpasu ystod o feysydd gan gynnwys lleoliadau gwasanaethau cyhoeddus, trafnidiaeth a defnydd ceir, buddsoddiad y sector cyhoeddus, polisi cynllunio, byw yng nghanol trefi a seilwaith gwyrdd. Mae'n pwysleisio y bydd angen parhau â'r dull cydweithredol o ddatblygu'r datganiad sefyllfa wrth fwrw ymlaen â'i gamau gweithredu.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Dirprwy Arweinydd CLlLC a Llefarydd ar yr Economi:

"Rwy'n croesawu’r datganiad hwn. Dros y blynyddoedd diwethaf mae canol trefi wedi dioddef yn sgil y lleihad yn nifer yr ymwelwyr, sydd wedi effeithio ar fusnesau ac wedi arwain at gau siopau a llefydd gwag. Fodd bynnag, mae canol trefi yn parhau’n bwysig i'n hymdeimlad o le a hunaniaeth. Gallant fod yn ganolbwynt i rwydweithiau trafnidiaeth gynaliadwy. Ein her yw cefnogi gweithgareddau sy'n adfywio'r canolfannau hyn, drwy ddenu amrywiaeth o weithgareddau hamdden, diwylliannol, a chymunedol eraill a helpu i gynnal siopau manwerthu.

"Mae'r datganiad yn galw ar bob rhan o Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd y gallant gyfrannu at yr ymdrech hon ac mae'r un peth yn wir i lywodraeth leol. Gall nifer o wasanaethau eraill gan gynghorau gyfrannu at ansawdd profiadau preswylwyr yng nghanol trefi. Gall cyfleoedd i leoli swyddfeydd y cyngor, swyddogaethau'r llywodraeth, a gweithgareddau eraill yn y sector cyhoeddus yng nghanol trefi hefyd helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr a chynhyrchu'r galw am fusnesau. Mae pob cyngor yn gweithio'n galed i adfywio canol eu trefi ac rwy’n siŵr y byddant yn gefnogol ac yn ymateb i'r her".

Dywedodd Jen Heal, Cynghorydd Dylunio, Comisiwn Dylunio Cymru, "Mae'r Comisiwn Dylunio yn cydnabod swyddogaeth bwysig canol trefi fel lleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol, busnes, diwylliant, cymuned a llesiant. 

"Mae'r flaenoriaeth a'r ffocws a roddir i ganol trefi drwy'r camau a nodir yn y datganiad hwn yn dangos ymrwymiad parhaus ac yn tynnu sylw at y ffaith bod llwyddiant canol trefi yn rhan annatod o ystod o feysydd polisi ac yn gyffredin iddynt.  Rydym yn cefnogi’r dull unedig hwn o greu lleoedd wrth gynllunio a dylunio canol trefi ac yn croesawu'r cyfle i ymwneud ymhellach â'r sector cyhoeddus a’r sector preifat wrth ei gyflwyno."