- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
27 Ebr 2023
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a’i bartneriaid newid sefydliadol a datblygu cynaliadwy, Arup, yn dathlu cydnabyddiaeth y diwydiant yng Ngwobrau Rheilffyrdd Spotlight.
Enillodd TrC ac Arup y wobr Prosiect Eithriadol (o dan £20 miliwn) ar gyfer Rhaglen Newid Rheilffyrdd Cymru (WRCP), a ddaeth â masnachfraint Cymru a’r Gororau dan berchnogaeth gyhoeddus.
Fe wnaeth Arup gynorthwyo TrC drwy raglen gymhleth i symud a throsglwyddo’r gweithredwr trenau o berchnogaeth breifat i berchnogaeth gyhoeddus, gan ategu uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch sy’n ategu teithio cynaliadwy ac sydd o fudd i bobl, lleoedd ac economi Cymru.
Dywedodd Anthony McKenna, Pennaeth Rhaglenni Nawdd a Thrafnidiaeth yn TrC: “Rydyn ni’n falch iawn o gael ein cydnabod gyda’r wobr flaenllaw hon yn y diwydiant.
“Roedd y newid sefydliadol sydd ei angen ar gyfer y Rhaglen Newid Rheilffyrdd yn ddarn sylweddol o waith a wnaeth barhau am nifer o fisoedd, ac ni fyddem wedi gallu gwneud hynny heb ymdrech wych gan y tîm.
“Roedden ni’n ffodus o allu elwa ar grŵp bach o ymgynghorwyr, dan arweiniad Arup, a wnaeth ein helpu i gyflawni’r rhaglen yn llwyddiannus.”
Dechreuodd y Rhaglen Newid Rheilffyrdd ym mis Mehefin 2020 yn ystod pandemig COVID-19 a pharhaodd tan ddiwedd 2021.
Dywedodd Andrew Jenkins, Cyfarwyddwr Prosiect Arup: “Roedd ymgysylltu, cydweithio a diwylliant o rannu gwybodaeth rhwng timau Arup a TrC yn hanfodol i lwyddiant y prosiect cymhleth hwn. Rydyn ni’n falch iawn bod y wobr hon yn cydnabod gwerth newid sefydliadol medrus yn y diwydiant rheilffyrdd.”
Llwyddwyd i gyflawni’r prosiect yn brydlon ac yn unol â’r gyllideb, ac roedd yn cynnwys:
- Mwy na 50 cytundeb cyfreithiol a 300 o gontractau.
- Trosglwyddo tua 3,000 aelod o staff.
- 113 o systemau technoleg a gwasanaethau.
- Pedair trwydded gyda’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd
- 18 o brydlesi fflyd sy’n cyfateb i 317 o drenau. ‘
I gael rhagor o wybodaeth am y Gwobrau, ewch i www.spotlightrailawards.com/