English icon English
Sêr Cymru General-2

Sêr Cymru IV: Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi £10 miliwn i gefnogi ymchwil wyddonol yng Nghymru

Sêr Cymru IV: Economy Minister announces £10m to support scientific research in Wales

  • Gweinidog yr Economi yn cadarnhau buddsoddiad o £10 miliwn ar gyfer rhaglen Sêr Cymru a gydnabyddir yn rhyngwladol.
  • Lansiwyd Sêr Cymru i adeiladu sylfaen ymchwil wyddonol “gryf a deinamig” yng Nghymru.
  • Bydd Cam IV y rhaglen yn canolbwyntio ar ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a datblygu syniadau arloesi tarfol i helpu i ddatrys yr heriau economaidd-gymdeithasol sy’n wynebu Cymru a’r byd ehangach.
  • Mae’r rhaglen yn elfen hanfodol o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gadw a denu talent, a datblygu ymhellach weithlu medrus iawn.

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi cyhoeddi rownd cyllid newydd gwerth £10 miliwn dros ddwy flynedd (2023-24 a 2024-25) ar gyfer y rhaglen Sêr Cymru a gydnabyddir yn rhyngwladol i helpu i adeiladu sylfaen ymchwil wyddonol “gryf a deinamig” yng Nghymru.

Sefydlwyd y rhaglen Sêr Cymru i sicrhau bod gwyddoniaeth yn chwarae ei rhan lawn wrth gefnogi datblygiad economaidd a chenedlaethol Cymru.

Dros yr 11 mlynedd diwethaf mae rhaglen Sêr Cymru wedi addasu i gyd-fynd â newidiadau ym maes ymchwil, ac arweinwyr datblygu ac arloesi, sydd yn ei dro wedi ymateb i faterion economaidd ac iechyd megis canlyniadau ymadael â’rUE ac effeithiau pandemig COVID-19.  Mae’r rhaglen wedi cynhyrchu dros £252 miliwn mewn incwm ymchwil fel enillion drwy fuddsoddiad o £110 miliwn gan Lywodraeth Cymru, gan lwyddo i adeiladu capasiti a gallu ym maes ymchwil Cymru.

Mae’r buddsoddiad wedi cynnwys

  • Cam I a II a oedd yn cefnogi nifer o Gadeiryddion Ymchwil proffil uchel a sêr sy’n datblygu, 115 o Gymrodoriaethau Ymchwil, 340 o ysgoloriaethau ymchwil doethuriaeth ac ôl-ddoethuriaeth, a 9 seren sy’n datblygu ar gyfer prosiectau ymchwil a gefnogir.
  • Cam III a roddodd £2.5 miliwn o gyllid i Brifysgolion Cymru ar gyfer 40 o brosiectau ymchwil newydd a allai gyfrannu at ddatblygiad ymchwil sy’n effeithio ar COVID-19, neu ei gryfhau. Yn fwy diweddar rhoddwyd cyllid ychwanegol (£2.3 miliwn) i bum prifysgol yng Nghymru (Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberystwyth) i brynu offer ar gyfer y meysydd ymchwil rhyngddisgyblaethol fel gofal iechyd, lled-ddargludyddion cyfansawdd a chynhyrchu hydrogen a charbon isel a niwclear.

Bydd lansiad cam IV newydd yn cefnogi’r cenadaethau yn Strategaeth Arloesi newydd Llywodraeth Cymru, sy’n sôn am y nod i Gymru fod yn genedl flaenllaw o ranr arloesedd. Mae Sêr Cymru yn elfen gyflawni bwysig o’r Strategaeth hon.

Er mwyn sicrhau’r buddion mwyaf posibl i Gymru o’r rownd cyllid nesaf, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau canlynol:

  • Carbon isel
  • Gwyddorau bywyd
  • Peirianneg uwch
  • Cyfrifiadura uwch

Wrth ymgynghori’n agos â rhanddeiliaid, disgwylir i’r tri gweithgaredd gorau a gaiff eu hariannu gynnwys:

  • Ysgoloriaethau PhD
  • Dyfarniadau adeiladu capasiti
  • Rhwydweithiau Ymchwil Cenedlaethol

Mae’r rhaglen yn cyd-fynd â Chenhadaeth Llywodraeth Cymru i Gryfhau ac Adeiladu’r Economi, gan gynnwys uchelgeisiau fel cadw talent, denu talent, uwchsgilio a gwella cysylltedd.

Wrth gyhoeddi Sêr Cymru IV, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae gan wyddoniaeth gyfraniad enfawr a hanfodol i’w wneud wrth ymateb i’r heriau amrywiol sy’n wynebu Cymru a gweddill y byd.

“Rwy’n falch iawn o’r cynnydd y mae Sêr Cymru eisoes wedi’i wneudg. Diolch i Sêr Cymru, rydym wedi dod ag ymchwil ac ymchwilwyr gwirioneddol ragorol i Gymru.

“I’r perwyl hwn, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o barhau i adeiladu sylfaen ymchwil wyddonol gref a deinamig yma yng Nghymru. Bydd cadw, uwchsgilio a denu talent yn allweddol i gyflawni ein hamcanion fel y nodir yn ein Strategaeth Arloesi.

“Mae’r buddsoddiad rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn dangos bod Cymru’n wlad flaengar, hyderus, sy’n croesawu busnes a chydweithio rhyngwladol.”

Dywedodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, yr Athro Jas Pal Badyal FRS:

“Mae gwyddoniaeth yn ganolog i lwyddiant economaidd Cymru. Nod Sêr Cymru yw parhau i hyrwyddo a chefnogi’r gwaith o ddarparu ymchwil wyddonol sydd ar flaen y gad acsy’n cael effaith uchel ledled Cymru. Mae hyn yn hanfodol os ydym am ddatblygu’r syniadau arloesi tarfol sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r heriau economaidd-gymdeithasol a wynebir yng Nghymru a’r byd ehangach heddiw.

“Bydd ffocws ar ragoriaeth mewn gwyddoniaeth yn helpu i ysgogi cynnydd mewn ysbryd cystadleuol yn y sector ymchwil. Bydd hyn, yn ei dro, yn cefnogi’r gwaith o gryfhau gallu a chapasiti ymchwil yng Nghymru ac yn cynyddu ein trosoledd wrth gael gafael ar gyllid o ffynonellau’r DU a thramor.

“Nid yn unig bydd y buddsoddiad o £10 miliwn yng ngham nesaf Sêr Cymru yn helpu i wneud y mwyaf o gyfraniad y sector ymchwil addysg uwch yng Nghymru, ond bydd hefyd yn cefnogi ymyriadau eraill – yn enwedig y rhai i ysbrydoli a meithrin gwyddonwyr y dyfodol y bydd cymaint yn dibynnu arnynt.”

Mae cam blaenorol Sêr Cymru yn parhau i weithredu tan ddiwedd mis Mehefin 2023, pan ddaw cyllid Ewropeaidd ar gyfer y rhaglen i ben.

Nodiadau i olygyddion

  • Sêr Cymru is a long-term programme and funding has been identified for future years, beyond the 2024-25 budget.
  • Programme for Government (PfG):

There are multiple commitments within the PfG where a successful outcome will be dependent on a strategic research and innovation focus from Welsh Government (for example; medical technologies, climate change science and advanced materials and technologies). This next phase of the Sêr Cymru programme, seeks to enable progression of these commitments.

https://www.gov.wales/programme-government

  • The Wellbeing of Future Generations Act:

Phase IV is to enhance excellence in Science in Wales, to create a Better Wales. This is not only in economic terms with providing a solid foundation in excellent science at the lower TRL levels to enable growth along the higher TRLs but also in terms of social impact too, in strengthening STEM enrichment, enabling opportunities to all and using science to create technical solutions to key problems in society.

https://www.gov.wales/well-being-of-future-generations-wales