English icon English

Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth ddiogelu ein planhigion a’n coed – y Gweinidog Materion Gwledig

We all have a role to play in protecting our plants and trees – Rural Affairs Minister

Yn ystod Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion, mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn atgoffa pobl o’r hyn y gallant ei wneud i ddiogelu planhigion a choed yng Nghymru rhag plâu a chlefydau.

Mae planhigion a choed yn hanfodol. Maent yn cynhyrchu’r ocsigen rydyn ni’n ei anadlu, yn gweithredu fel sinciau carbon ac yn darparu bwyd inni ei fwyta.

Ar ôl i arolwg gael ei gynnal ymhlith 1,000 o bobl yng Nghymru, cyhoeddwyd adroddiad newydd heddiw ar agweddau’r cyhoedd at iechyd planhigion a rhywogaethau Estron Goresgynnol. Mae’r adroddiad yn dangos bod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn dweud bod diogelu planhigion a choed yn bwysig iddyn nhw. Fodd bynnag, dim ond 23% oedd yn mynd ati i chwilio am wybodaeth am blâu a chlefydau.

Dim ond 54% o’r rhai a holwyd oedd yn cydnabod bod mewnforio planhigion yn bersonol o dramor yn risg uchel i blanhigion a choed Cymru.

Fel y nodwyd yn strategaeth Bioddiogelwch Planhigion y DU a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i ddiogelu planhigion a choed drwy sefydlu rhwydweithiau gwyliadwriaeth ledled Cymru sy’n chwilio am blâu a chlefydau mewn planhigion a choed, gan fod eu darganfod yn gynnar yn rhoi’r cyfle gorau i fynd i’r afael â nhw.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion yn gyfle gwych inni gyd ystyried sut y gallwn weithredu i ddiogelu’n planhigion a’n coed rhag plâu a chlefydau.

“Mae yna rai ffyrdd syml o wneud hynny, fel peidio â dod â phlanhigion a hadau yn ôl o wyliau tramor. Mae’n bwysig hefyd sicrhau ein bod ni i gyd yn ceisio dilyn mesurau bioddiogelwch fel glanhau ein hesgidiau ar ôl mynd am dro yn y goedwig.

“Mae’n bwysig rhoi gwybod i’r awdurdodau am unrhyw blâu neu glefydau sy’n cael eu gweld ar blanhigion a choed mewn gerddi neu allan yn yr awyr agored. Gellir gwneud hynny drwy Tree Alert neu Borth Iechyd Planhigion y DU.

“Mae planhigion a choed yn bwysig, ond rydyn ni’n gwybod eu bod mewn perygl. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth helpu i sicrhau ein bod yn eu diogelu.”