English icon English

Plant a phobl ifanc yn arwain diwygiad radical o wasanaethau gofal yng Nghymru

Children and young people lead radical reform of care services in Wales

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi llofnodi datganiad heddiw (10 Mai) yn ymrwymo i ddiwygiad radical o wasanaethau gofal ar gyfer plant a phobl ifanc.

Mae’r datganiad, a ddatblygwyd ar y cyd gan blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a Gweinidogion, yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi llais plant a phobl ifanc wrth galon y trawsnewidiad o wasanaethau plant.

Mae’n ymrwymo Llywodraeth Cymru i gyflawni ystod eang o newidiadau i’r system ofal bresennol, i alluogi dull ‘plant yn gyntaf’ ym mhopeth a wnawn ac i sicrhau y gwneir popeth posibl i gadw plant a theuluoedd gyda’i gilydd.

Daw’r datganiad wrth i Lywodraeth Cymru ymgymryd â thrawsnewidiad radical o wasanaethau plant yng Nghymru.

Mae wedi ymrwymo i leihau nifer y plant a phobl ifanc sy’n cyrraedd y system ofal, ond ar gyfer y plant hynny sydd mewn gofal, mae am iddynt aros yn agos at y cartref fel y gallant barhau i fod yn rhan o’u cymuned.

Rhaid canolbwyntio ar gadw teuluoedd gyda’i gilydd, drwy roi cymorth cynnar a gwasanaethau cefnogi ar yr adeg iawn ar gyfer rhieni a phlant.

Cafodd y datganiad ei ddatblygu gan dîm o lysgenhadon ifanc o Voices from Care Cymru a Gweinidogion Cymru yn dilyn yr uwchgynhadledd gyntaf erioed ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal ac unigolion sy’n gadael gofal yng Nghymru, a gynhaliwyd y llynedd.

Aeth pedwar deg o arweinwyr ifanc sydd wedi cael profiad o ofal i’r uwchgynhadledd gyda’r Prif Weinidog, y Gweinidogion Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidogion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Meddwl a Llesiant.

Dywedodd Paris A’Herne, llysgennad ifanc a helpodd i ddatblygu’r datganiad:

“Pan wnaethon ni gyfarfod â’r Gweinidogion yn yr uwchgynhadledd ym mis Rhagfyr, roedden ni’n teimlo eu bod wir wedi gwrando arnom ni.

"Maen nhw’n gwybod, er bod rhai pobl ifanc yn cael profiad cadarnhaol iawn mewn gofal, bod llawer gormod yn cael eu gadael i lawr.

“Gwyddom y bydd yn cymryd amser i gyflawni popeth rydym wedi’i gytuno gyda’r Gweinidogion yn y datganiad hwn, ond rydyn ni’n credu y tro hwn y bydd newid yn cael ei wireddu.”

Ychwanegodd Rhian Thomas, a gyd-gadeiriodd yr uwch-gynhadledd y llynedd, ac sydd hefyd yn llysgennad ifanc:

“Roedd y trafodaethau a gawsom gyda’r Gweinidogion yn yr uwchgynhadledd yn seiliedig ar ein profiadau ein hunain, ac ar brofiadau llawer o bobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal.

“Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod yr holl blant yn y system ofal yn cael y profiad gorau posibl, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru.

"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Gweinidogion a’u timau – a phawb yng Nghymru sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal – i gyflawni’r addewid yn y datganiad.”

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae’r datganiad hwn yn gydweithrediad rhwng plant a phobl ifanc a Llywodraeth Cymru.

"Rydym wedi ymrwymo i gyflawni diwygiad radical o wasanaethau gofal ar gyfer plant a phobl ifanc a bydd y datganiad hwn yn darparu’r cynllun ar gyfer y gwaith hwnnw.

“Rydym wedi gwrando ar yr hyn y mae llysgenhadon ifanc wedi’i ddweud wrthym am eu profiadau a phrofiadau plant a phobl ifanc eraill sydd â phrofiad o ofal.

"Gyda’n gilydd rydyn ni wedi datblygu’r weledigaeth hon ac fel Prif Weinidog Cymru, rwy’n falch o’i chefnogi.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan:

“Gwyddom fod llawer o blant a phobl ifanc yn cael profiad cadarnhaol yn y system ofal ac yn gwneud yn dda mewn bywyd.

“Ond nid yw hawliau llawer gormod o blant a phobl ifanc â phrofiad o ofal yn cael eu parchu, ac nid yw eu hanghenion yn cael eu bodloni.

“Rwyf eisiau gweld plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn ffynnu a thyfu, yn cael gofal a chefnogaeth, ac yn mynd ymlaen i gyflawni eu llawn botensial.

“Rydym wedi ymrwymo i gyflawni hynny ac wedi gwrando ar y plant a phobl ifanc i ddeall sut y gallwn wneud hyn.

"Y datganiad hwn yw’r cam cyntaf i gyflawni’r uchelgais hon.”