- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
05 Mai 2023
Mae Mis Hanes Lleol a Chymunedol yn ddathliad o hanes lleol a chymunedol sy’n cael ei gynnal ledled y DU am fis. Fe’i trefnir gan y Gymdeithas Hanesyddol, ac mae gweithgareddau’n digwydd ledled y wlad bob mis Mai i godi ymwybyddiaeth o gymuned gref ac i dynnu sylw at hanes lleol.
Yma yn TrC, mae ein gwaith treftadaeth yn anelu at warchod, diogelu a hyrwyddo ein treftadaeth gyfoethog a threftadaeth y lleoedd a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar yr un pryd â gweithredu arferion effaith cynaliadwy ar draws y sector trafnidiaeth.
Mae hyn yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymdrechion parhaus i greu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cymdeithasol gynaliadwy a diwylliannol gyfrifol sydd o fudd i’r amgylchedd ac i’r bobl a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Mae trafnidiaeth wedi chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o siapio hanes amrywiol a threftadaeth gyffredin Cymru a’r gororau. Mae gan y fenter agwedd gyfannol at dreftadaeth, gan gwmpasu nid yn unig yr amgylchedd adeiledig ond hefyd arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol safleoedd a chymunedau. Er mwyn cyflawni ein nodau, rydyn ni’n cydweithio â’r byd academaidd, grwpiau treftadaeth a chymunedol, a sefydliadau eraill i nodi, gwarchod, diogelu a chynnal treftadaeth yn ogystal â hyrwyddo arferion effaith cynaliadwy sy’n creu gwerth, yn gweithredu newid cadarnhaol, ac yn sicrhau manteision mesuradwy y gellir eu cynnal dros y tymor hir.
Mae pawb yn byw mewn ardal o dreftadaeth leol a chymunedol gyfoethog, hyd yn oed os nad ydynt yn gwybod amdani eto!
Mai yw’r amser i ymchwilio, archwilio a darganfod hanes y byd o’ch cwmpas. Rydyn ni wedi llunio rhestr o lefydd gwych i ddechrau ymchwilio sy’n canolbwyntio ar hanes lleol a chymunedol trafnidiaeth.
- Archwiliwch hanes eich teulu a’ch hynafiaid fu’n gweithio ar y rheilffyrdd. Dechreuwch yma.
- I weld cofnodion staff cwmnïau rheilffyrdd yng Nghymru a Lloegr, ewch i’r canllaw cofnodion staff rheilffyrdd yn yr Archifau Cenedlaethol.
- A oes gennych chi Hynafiaid fu’n gweithio ar y Rheilffyrdd neu ydych chi’n meddwl bod gennych chi? Hoffech chi gael gwybod mwy am agwedd wahanol ar hanes lleol a chymunedol yn eich ardal chi? Neu ddim ond eisiau gwybod mwy am fywyd ar y rheilffyrdd? Yna, ewch i Railway Work, Life & Death. Mae’r prosiect yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Portsmouth, yr Amgueddfa Rheilffyrdd Genedlaethol (NRM) a’r Ganolfan Cofnodion Modern ym Mhrifysgol Warwick (MRC) a gwirfoddolwyr anhygoel ledled y DU sy’n ei gwneud yn haws cael gwybod am ddamweiniau i weithwyr rheilffordd ym Mhrydain ac Iwerddon o ddiwedd y 1880au i 1939. Mae gan y prosiect gronfa ddata y gellir chwilio drwyddi am bwy oedd yn gysylltiedig, beth oedden nhw’n ei wneud ar y rheilffyrdd, beth ddigwyddodd iddyn nhw a pham.
- Mae mapiau’n hanfodol i hanes lleol a chymunedol ac yn lle gwych i ddechrau ar gyfer edrych ar gymunedau rheilffyrdd a chysylltiadau trafnidiaeth dros amser
- Mae trafnidiaeth wedi creu, llunio a siapio #cymunedau lleol ledled Cymru a’r DU. Cymerwch ardal gorsaf i weld sut mae wedi newid gan ddefnyddio papurau newydd, cyfnodolion a chylchgronau, cofnodion cyfrifiad a hanes adeiladau/tai.
- Chwilio archifau lleol yng Nghymru Storfeydd Archifau Cymru ac Chwilio’r Catalog Ar-lein
Mae ein rhwydweithiau trafnidiaeth a theithio llesol hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i archwilio hanes a threftadaeth, o lwybrau i gestyll i dirweddau hanesyddol. Dechreuwch arni yma.