English icon English
8-54

Gweinidog yn cyhoeddi hyd at £6.3m i hosbisau  yng Nghymru yn ystod Covid-19

Minister announces up to £6.3m for hospices in Wales during Covid-19 outbreak

Heddiw (dydd Sul, 19 Ebrill) mae’r Gweinidog ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi pecyn cymorth tai- mis, werth hyd at £6.3m ar gyfer hosbisau yng Nghymru.

Mae’r holl wasanaethau hosbis yng Nghymru’n dibynnu ar godi arian elusennol am tua dwy ran o dair o’u hincwm maent wedi gweld gostyngiad mawr mewn cyllid yn ystod y pandemic coronafeirws.

Mae’r cyfyngiadau diweddar sydd wedi’u gorfodi yn ystod yr argyfwng wedi arwain at ddigwyddiadau codi arian yn cael eu canslo, siopau elusen cau ac i ymgyrchoedd gael eu gohirio. Ar yr un pryd, mae'r argyfwng yn gwneud eu gwasanaethau hyd yn oed yn fwy hanfodol.

Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn eu galluogi i barhau i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol hyd yn oed yn absenoldeb y gweithgareddau codi arian.

Mae’n dod o’r gronfa frwydro gwerth £1.1 biliwn sydd wedi’i chreu gan Lywodraeth Cymru i ymateb i bandemig y coronafeirws.      

Dywedodd y Gweinidog: “Rydw i’n falch iawn o allu cyhoeddi’r gefnogaeth yma i’n hosbisau ni er mwyn dal ati i weithredu yn ystod y cyfnod anodd yma.          

Wrth i’w hincwm elusenol arferol ddiflannu, mae risg ddifrifol y gallai gwasanaethau hosbis a gofal diwedd oes lithro i ansolfedd.       

Mae gwasanaethau hosbis a gofal diwedd oes sy’n cael eu darparu gan y sector gwirfoddol yn rhan allweddol o deulu’r GIG, gan ddarparu gofal hanfodol i fwy nag 20,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn, a helpu i atal derbyn i ysbyty pan mae modd osgoi hynny.

Gan fod y GIG yn rhoi blaenoriaeth i driniaeth a gofal i bobl sydd â COVID-19, mae gwasanaethau hosbis a gofal diwedd oes yn bwysicach nag erioed, gan ddarparu cysondeb gwasanaeth i bobl sydd wedi’u heffeithio gan salwch angheuol.                  

Bydd yr arian hwn yn sicrhau eu bod yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a gofal o ansawdd uchel ledled Cymru.”