English icon English
Hwb

5 ffordd mae Cymru’n arwain y ffordd yn darparu addysg yn ddigidol

5 ways Wales is leading the way in delivering digital education services

Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hystyried fel arweinydd byd mewn darparu gwasanaethau digidol ar gyfer addysg. Dyma rai o’r rhesymau pam.  

1. Hwb o weithgarwch

 Lansiwyd Hwb, platfform dysgu ar-lein ar gyfer Cymru, yn 2012.

Mae hyn yn rhoi i Gymru blatfform perffaith ar gyfer cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ac yn dysgu yn ystod cyfyngiadau symud y coronafeirws.           

Drwy gydol mis Mawrth 2020, mae’r defnydd o Hwb wedi cynyddu’n sylweddol gyda mwy na 2.8m o fewngofnodi wedi’i gofnodi - mae hynny’n gyfartaledd o 92k o fewngofnodi bob un dydd!             

2. Adnoddau Microsoft am ddim gartref

Mae gan Gymru gytundeb trwyddedu cenedlaethol gyda Microsoft sy’n sicrhau bod pob dysgwr ac athro yn ysgolion y wladwriaeth yn cael defnyddio adnoddau diweddaraf Microsoft Office, gan gynnwys Minecraft Education Edition, ar eu dyfeisiau personol gartref.

3. Ehangu Adobe Spark yn genedlaethol

Mae Cymru newydd ddod y wlad gyntaf yn y byd i ddefnyddio Adobe Spark yn genedlaethol, gan alluogi i fwy na 500,000 o athrawon a dysgwyr ledled Cymru ddefnyddio Adobe Spark for Education.

4. Dysgu dwyieithog

Hefyd mae Cymru wedi sicrhau bod Google Classroom ac amrywiaeth o adnoddau G Suite for Education ar gael yn y Gymraeg. Y Gymraeg yw’r ail iaith leiaf yn y byd y mae G Suite ar gael ar ei chyfer.   

5. Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu

Ddydd Llun, Ebrill 20, bydd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn cyhoeddi Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu sy’n ceisio cefnogi dysgwyr, arweinwyr, llywodraethwyr, ymarferwyr, rhieni a gofalwyr i ddelio ag effaith y coronafeirws. Cymru yw’r unig genedl yn y DU i ddarparu cyfarwyddyd ac adnoddau cenedlaethol yn y ffordd gydlynol hon.

Fel rhan o raglen Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu, mae Llywodraeth Cymru yn darparu gweithgareddau ar y cyd ag awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn cefnogi dysgwyr sydd wedi’u heithrio’n ddigidol.