English icon English

Ehangu apwyntiadau gyda meddygon dros y we ledled Cymru

Virtual doctor appointments rolled out across Wales

Y Gweinidog Iechyd yn dweud bod galwadau fideo i feddygon teulu yn allweddol i barhau â gwasanaethau gofal iechyd wrth frwydro yn erbyn COVID-19

Gall pob meddygfa yng Nghymru gael mynediad i system newydd sy’n galluogi i bobl gael apwyntiadau ar-lein gyda’u meddyg teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.                       

Drwy gydweithio, lluniodd Llywodraeth Cymru a TEC Cymru gynnig ar gyfer darparu’r gwasanaeth ymgynghoriadau fideo yn gyflym iawn i bob meddyg teulu yng Nghymru fel ymateb i bandemig y Coronafeirws (COVID-19). Roedd y gwasanaeth eisoes yn rhan o dreial ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Yn ogystal â helpu pobl i gadw at y rheolau aros gartref, bydd y system newydd yn galluogi i feddygon a nyrsys sy’n hunan-ynysu, ond yn fodlon ac yn gallu gweithio, barhau i wasanaethu eu cymunedau.

Bydd ymgynghoriadau o bell yn helpu meddygfeydd i gadw staff rheng flaen a’u cleifion yn ddiogel drwy leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws wrth i Gymru wynebu ail wythnos o reolau aros gartref llym. 

Dywedodd y Gweinidog ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething:

“Mae arloesi fel hyn yn galluogi’r llywodraeth i helpu staff rheng flaen i gadw pobl yn ddiogel ac yn iach yn ystod yr amseroedd digynsail yma. Mae hefyd yn golygu haen arall o warchodaeth i staff y GIG.    

“Rydyn ni’n newid y ffordd mae’r GIG yn gweithredu. Drwy gynnig apwyntiadau dros y ffôn ac ar fideo, gallwn leihau’r pwysau ar staff rheng flaen a rhoi cefnogaeth well i bobl gyda gwybodaeth a chyngor am gyswllt diangen. Rydyn ni’n edrych yn awr ar gam nesaf y gwasanaeth hwn, a fydd yn cynnwys ei ehangu i lefydd fel ysbytai.”

Bydd apwyntiadau fideo’n cael eu cynnig os yw meddygon eisiau mwy o wybodaeth nag y gall galwad ffôn ei darparu. Yn yr achosion hyn, gall meddygfeydd ddarparu cyfarwyddiadau syml am sut gall pobl gael gafael ar y dechnoleg am ddim a hawdd ei defnyddio a fydd yn gweithio gyda’u ffôn clyfar, eu tabled neu eu cyfrifiadur personol.

Bydd staff byrddau iechyd TEC Cymru sy’n gweithio gyda thimau rheng flaen ledled Cymru’n cael eu hyfforddi yn y system newydd, gyda 290 o feddygon teulu ar draws 73 o feddygfeydd wedi cael eu hyfforddi eisoes ar y platfform newydd. Mae mwy na 430 o ymgynghoriadau fideo wedi cael eu cynnal ers ei lansiad ar 16 Mawrth.

Dywedodd Mike Ogonovsky, cyfarwyddwr cyswllt ar gyfer gwybodeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Mae’r rhaglen hon yn dangos sut rydyn ni’n ehangu ein hadnoddau i gefnogi clinigwyr sydd wedi gofyn am ffordd amgen o gyflwyno gofal i’w cleifion. Mae eisoes wedi rhoi llawer o foddhad cael adborth mor bositif gan glinigwyr a chleifion.”

Dylai darparwyr gofal iechyd sydd eisiau cael gwybodaeth a hyfforddiant pellach am Wasanaeth Ymgynghoriadau Fideo GIG Cymru fynd i digitalhealth.wales/tec-cymru/vc-service.