English icon English
8-54

Pecyn £18 miliwn o gymorth ar gyfer y sector diwylliant, creadigol a chwaraeon yng Nghymru.

£18m support for the culture, creative and sport sector in Wales

Mae dros £18 miliwn ar gael  i gefnogi sectorau y diwydiannau creadigol, diwylliant a chwaraeon sy’n teimlo effaith COVID-19 ar hyn o bryd.  

Mae'r pecyn arbennig o fesurau, a gyhoeddwyd gan Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth,  wedi’u cynllunio i ddarparu cymorth ar unwaith i’r sectorau bregys hyn fydd yn helpu i achub busnesau a swyddi. 

Mae’r cyllid yn cael ei ddarparu drwy  Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru ac yn cynnwys:  

  • Cronfa dycnwch y Celfyddydau gwerth £7 miliwn o dan arweiniad Cyngor y Celfyddydau Cymru – Gan gydweithio gyda Cyngor Celfyddydau Cymru, bydd cronfa o £7.1miliwn yn cael ei defnyddio i gefnogi artistiaid unigol a sefydliadau celfyddydol, sy’n hanfodol i ddiwylliant, lles a chydnerthedd, sydd â’r angen mwyaf, ac sy’n lleiaf tebygol o elwa o raglenni cymorth eraill. Bydd rhagor o gyhoeddiadau yn fuan o ran sut y bydd y cronfeydd hyn ar gael.   
  • Cronfa Cydnerthedd Chwaraeon £8miliwn – Mae Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i £8 miliwn ychwanegol. Caiff hwn ei ddefnyddio i gefnogi clybiau chwaraeon a’n rhwydweithiau partner sefydledig sydd mor hanfodol i sicrhau bod ein cenedl yn gallu parhau i fod yn egnïol a mwynhau y manteision iechyd a lles a ddaw yn sgïl chwaraeon. 
  • Cronfa gwerth £1miliwn Cymru Greadigol i roi cymorth i leoliadau cerddoariaeth lleol i ymateb i bwysau ar unwaith (hyd at £25 mil fesul busnes), a chymorth ychwanegol ar gyfer y sector teledu a chyhoeddi i ganiatâu iddynt ystyried cyfleoedd yn y dyfodol. Bydd enghreifftiau yn cynnwys gweithio ar syniadau newydd ar gyfer cynnwys teledu a phrofiadau digidol newydd. 
  • Cronfa Cydnerthedd Diwylliannol gwerth £1 miliwn ar gyfer amgueddfeyddd, casgliadau, gwasanaethau cadwraeth, archifau a llyfrgelloedd cymunedol i ymateb i bwysau tymor byr a chamau adfer ar sail cais am grant.
  • Cronfa Cymorth Brys gwerth £750 mil – i gefnogi ein sefydliadau chwaraeon, amgueddfeydd a threftadaeth annibynnol lleiaf a mwyaf bregus gyda llif arian a phroblemau hollbwysig eraill. Mae hyn yn cynnwys dwy raglen grant sy’n cael eu gweinyddu gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru a Chwaraeon Cymru.   
  • Adnoddau Llyfrgell Digidol gwerth £250 mil – yn galluogi llyfrgelloedd cyhoeddus i gynnig adnoddau digidol ychwanegol i’r cyhoedd ac yn rhoi adnoddau i bobl ddarllen ac ymgysylltu ag eraill wrth hunan-ynysu.

Meddai’r Dirprwy Weinidog: “Rydyn ni wedi gwrando ar nifer o’n rhanddeiliaid o fewn y sectorau bregus hyn.  Rydyn ni yn deall bod rhain yn amseroedd ansicr i fusnesau a sefydliadau ledled Cymru ac yn cydnabod yn llawn yr heriau enfawr nas gwelwyd mo’u tebyg o’r blaen y mae y coronafeirws yn ei gael ar fywyd Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth bosibl i gefnogi cadernid, creadigrwydd a’r bartneriaeth sydd i’w weld o fewn y sector.    

Hoffwn ddiolch i’n sefydliadau sy’n bartneriaid am gydweithio â ni i ddarparu’r pecyn ychwanegol hwn o gymorth.    

“Bydd mynd â hyn gam ymhellach yn galluogi’r sector hwn i oroesi yn ystod yr asmer anodd hwn a gobeithio i ffynnu eto – gan ddod â chymunedau at ei gilydd unwaith eto pan fydd yr argyfwng wedi mynd heibio.” 

Bydd rhagor o fanylion ar Gronfa Dycnwch y Celfyddydau gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gael ar 6 Ebrill.