English icon English
child playing-2

Taliadau Cynnig Gofal Plant Cymru i barhau hyd yn oed os na fydd plant yn bresennol yn sgil ynysu rhag coronafeirws

Childcare Offer for Wales payments will continue even if children do not attend due to coronavirus isolation

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi heddiw [18 Mawrth] y bydd cyllid ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru yn parhau i gael ei dalu i awdurdodau lleol a lleoliadau gofal plant sy'n derbyn taliadau ar gyfer plant yn eu gofal ar hyn o bryd, hyd yn oed os bydd amharu ar y gwasanaethau. 

Nid yw'n ofynnol i leoliadau gofal plant gau, ac fe fyddant yn parhau ar agor am y tro. Fodd bynnag, mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno, pan fo lleoliad yn cael ei gau ar sail cyngor meddygol, neu pan nad oes modd i blant fynychu yn sgil Covid-19, bydd y cyllid yn parhau i fod ar gael.

Bydd cyllid hefyd yn parhau i fod ar gael pan fo nifer y staff yn syrthio i lefel sy'n golygu nad yw'n ddiogel i'r lleoliad barhau i weithredu.

Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn disgwyl i awdurdodau lleol barhau i dalu am ofal plant sy'n cael ei ddarparu dan Dechrau'n Deg, ac am ddarpariaeth addysg gynnar. 

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn, i rieni cymwys sy’n gweithio sydd â phlant 3 a 4 oed. Mae ar gael ledled Cymru.

Wrth gyhoeddi'r penderfyniad, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

"Rwy'n gwybod ei bod yn amser anodd i ddarparwyr gofal plant Dechrau'n Deg a'r Cynnig Gofal Plant. Rwy' am wneud yn siŵr ein bod ni'n cyfyngu gymaint â phosib ar effaith y coronafeirws arnyn nhw. Dyna pam y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i dalu am Gynnig Gofal Plant Cymru a darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg."

Mae'n bosib y bydd lleoliadau gofal plant hefyd yn gymwys i gael cymorth dan becynnau cymorth ehangach i fusnesau sy'n cael eu sefydlu ledled Cymru a'r DU.