English icon English
8-54

Cymeradwyo erthyliadau gartref yng Nghymru yn ystod yr argyfwng Coronafeirws

Wales approves home abortions during Coronavirus crisis

Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd menywod yng Nghymru yn gallu cael mynediad i wasanaethau erthylu gartref yn ystod argyfwng y Coronafeirws.

Bydd menywod a merched sydd eisiau terfynu beichiogrwydd cynnar yn cael presgripsiwn am ddwy bilsen i’w cymryd gartref yn lle mynd i ysbyty neu glinig. Mae hynny’n golygu y byddant yn osgoi cyswllt cymdeithasol a'r risg ddiangen o ddod i gysylltiad â’r Coronafeirws.

Bydd y feddyginiaeth yn cael ei rhoi ar bresgripsiwn yn dilyn ymgynghoriad o bell gydag ymarferydd meddygol drwy gyswllt fideo neu gynhadledd ffôn. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

"Diogelwch y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth wrth inni fynd i'r afael â'r argyfwng Covid19. Mae'r mesur dros dro hwn yn sicrhau y gall menywod barhau i ddefnyddio'r gwasanaethau allweddol hyn heb wynebu risg ddiangen yn ystod y cyfnod heriol hwn.”