English icon English
WG positive 40mm-3

Cyhoeddi rhestr lawn o lwybrau cyhoeddus a meysydd parcio wedi’u cau oherwydd y Cofonafeirws

Full list of public path and car park closures due to Coronavirus published

Mae rheolau newydd I arbed bywydau ac atal y coronafeirws rhag lledaenu, llwybrau cyhoeddus a meysydd parcio sydd wedi’u cau, wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.   

Maent wedi’u cynllunio i ategu’r rheoliadau newydd llym ac i wneud yn siŵr nad fydd y sefyllfa a welwyd y penwythnos diwethaf yn digwydd eto, pan gasglodd nifer fawr o bobl ar draethau, parciau a mynyddoedd Cymru. 

Mae’r rheoliadau newydd yn cau nifer o ardaloedd prydferth a safleoedd Imwelwyr ledled Cymru ac yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gau rhai llwybrau cyhoeddus penodol a mynediad at dir. 

Mae’r tiroedd a’r llwybrau poblogaidd sydd wedi’u cau yn cynnwys:

  • Yr Wyddfa
  • Cadair Idris
  • 'Ogwen' - Y Garn, Glyderau, Tryfan a Cwm Idwal
  • Aran Benllyn ac Aran Fawddwy
  • Pob un o’r prif feysydd parcio.

Nid yw’r mesurau hyn yn atal pobl rhag mynd allan i ymarfer ond yn eu hannog i wneud hynny yn agos at adref.   

Mae’r rheolau ar gyfer aros agos i adref yn caniatáu i bobl fynd allan unwaith y dydd yn agos at adref i ymarfer – ond mewn grwpiau o ddim mwy na dau berson.  Ni ddylai pobl deithio os nad oes wir angen gwneud hynny, a dylent gadw 2 fetr i ffwrdd o bobl eraill a chadw at ganllawiau llym o ran golchi dwylo a hylendid. 

Dylai pobl sydd â symptomau coronafeirws – tymheredd uchel neu beswch newydd a chyson – aros gartref.  Mae’n rhaid I bobl sy’n byw gyda nhw hefyd aros gartref am 14 diwrnod. 

Meddai Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Cymru:

“Yng Nghymru, rydyn ni’n lwcus iawn o’r tirweddau naturiol prydferth sydd gennym ar hyd a lled y wlad.

“Nid atal pobl rhag ymarfer yn yr awyr agored y tu allan i’w cartrefi, fel sydd wedi’i nodi mewn deddfwriaeth erbyn hyn, yw’r bwriad wrth gau’r safleoedd hyn.

“Rydyn ni wedi gweithredu i gau llwybrau troed a thir penodol er mwyn cadw pobl yn ddiogel a lleihau’r pwysau ar ein GIG. Mae’n neges yn un syml. Arhoswch gartref er mwyn achub bywydau.”

Meddai Emyr, prif weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri:

“Wedi’r golygfeydd na welwyd eu tebyg yn Eryri y penwythnos diwethaf, mewn cydweithrediad â Chyngor Gwynedd, mae Parc Cenedlaethol Eryri bellach wedi cau yr ardaloedd prysuraf ar y mynddoedd a safleoedd poblogaidd o fewn y parc cenedlaethol. 

“Cafodd y camau eu cymryd er mwyn diogelu cymunedau gwledig a gwasanaethau iechyd yn ardal Gogledd Cymru, er mwyn helpu i atal y feirws rhag lledaenu. 

“Rydym yn annog y bobl leol sy’n byw o fewn ac yn agos at ffin y parc cenedlaethol i barhau i ymarfer, ond mae’n rhaid inni bwysleisio y dylent wneud hynny o garreg eu drws, a pheidio â theithio i ardaloedd eraill o fewn y parc.  I’r rhai nad ydynt yn byw o fewn pellter cerdded i’r parc cenedlaethol, mae ein neges yn glir – peidiwch ag ymweld â’r parc cenedlaethol tan i ganllawiau y Llywodraeth i osgoi teithio di-angen gael eu codi.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i gadw’r cyhoedd, a’n staff, mor ddiogel â phosibl. Er ein bod wedi cau’r holl seilwaith i ymwelwyr ar ein safleoedd, mae’n hawliau tramwy a’n tir mynediad agored yn parhau’n agored ar hyn o bryd ar gyfer y bobl hynny sy’n byw gerllaw. Byddwn yn mynd ati’n gyson i adolygu’r sefyllfa honno.”

“Cyngor CNC yw gofalu amdanoch eich hun ac eraill drwy ddilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Llywodraeth, gan osgoi teithio’n ddiangen − felly, os ydych chi’n mynd am dro, gwnewch hynny’n lleol; peidiwch defnyddio’r car i deithio i un o'r coedwigoedd rydyn ni’n eu rheoli.”

Mae rhestr o’r llwybrau cyhoeddus a’r meysydd parcio mewn rhai o fannau prydferth mwyaf poblogaidd Cymru wedi cael ei chyhoeddi ar wefannau Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru.   

DIWEDD