English icon English

Coronavirus: COBR

First Minister of Wales on lockdown extension following today's COBR meeting **Downloadable video address at bottom of email

Yn gynharach prynhawn yma, roeddwn i â Prif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn rhan o gyfarfod COBR Llywodraeth y DU.

Roeddem i gyd wedi cadarnhau y dylai'r cyfyngiadau presenol i achub bywydau a diogelu'r Gwasanaeth Iechyd barhau am 3 wythnos arall.

Mae hyn yn seiliedig ar wybodaeth gwyddonol arbenigol o'r data diweddaraf ar achosion coronafirws ledled y DU.

Rwyf yn gwybod fod y tair wythnos ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i lawer o bobl. 

Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru am y ffordd y mae pob un ohonch wedi delio â'r amgylchiadau heriol yma.

Er ein bod wedi gweld rhai arwyddion cadarnhaol yn y data, ni allwn ac ni ddylem fod yn hunanfodlon ynglŷn â'r firws. 

Mae llawer mwy o fywydau yn y fantol, ac mae gormod o deuluoedd eisoes wedi colli anwyliaid.

Mae’r penderfyniad o ymestyn y cyfnod cloi yn un anodd, ac nid ydym wedi'i gymryd yn ysgafn.

Ond ni allwn fentro taflu'r holl waith rydym wedi ei wneud dros yr wythnosau diwethaf trwy godi y rhwystron rhy fuan. 

Gallai hynny olygu mwy o farwolaethau, a hyd yn oed mwy o effaith ar swyddi a bywoliaethau pobl.

Bydd ein dull yn parhau i ddilyn y gwyddoniaeth, a byddwn yn gwneud y penderfyniadau cywir - ar yr adeg iawn - i achub bywydau ac amddiffyn ein gwasanaeth iechyd.